BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 28 Mawrth 2011

Ledley eisiau i Gymru barhau yn y Mileniwm

Dywed Joe Ledley yr hoffai weld gêm nesaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012 yn erbyn Montenegro yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm.

Joe Ledley
Bydd tîm Gary Speed yn wynebu Montenegro ym mis Medi a hyd yn hyn nid yw Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cadarnhau lleoliad y gêm.

Roedd Stadiwm y Mileniwm dan ei sang am y tro cyntaf ers chwe blynedd y Sadwrn diwethaf wrth i Gymru golli o 2-0 yn erbyn Lloegr.

Ac mae Ledley yn gobeithio y bydd digon o ddiddordeb ymysg y cefnogwyr i gynnal y gêm yn y Stadiwm sydd â lle ar gyfer dros 72,000 o bobl.

"Gobeithio y dawn nhw'n ôl i gefnogi ni'r chwaraewyr," meddai chwaraewr Celtic. "Maen nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr yn yr hyn 'da ni'n gwneud.

"Mae'n stadiwm wych, ac o bosib y gorau 'dwi wedi chwarae ynddi erioed."

Mae amddiffynnwr Nottingham Forest, Chris Gunter hefyd yn teimlo bod gan y cefnogwyr gyfraniad pwysig i wneud ar ddechrau cyfnod newydd i'r tîm cenedlaethol.

"Ro' ni'n meddwl bod y cefnogwyr yn ardderchog, er mi roedden nhw wastad am droi lan ar gyfer Lloegr," meddai Gunter.

"Da ni eu hangen gymaint â maen nhw ein hangen ni. Mae'n gwneud gwahaniaeth pan fo'r stadiwm yn llawn.

"Gobeithion y cânt nhw weld ein bod yn gwella ac ry' ni'n hyderus o wneud hynny."

"Pan fo chi'n mynd ar ei hôl hi, ac mae'r tîm wedi cael rhediad gwael o ganlyniadau, yna mae'n anodd gweld y tîm yn taro'n ôl."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy