Fe adawodd Ramsey y maes wedi 57 munud ar ôl sgorio a chwarae rhan yn y ddwy gôl arall ym muddugoliaeth Cymru yng Nghaerdydd. Datgelodd rheolwr Cymru John Toshack bod Ramsey wedi bod yn dioddef gydag anaf i'w gefn yn ystod yr wythnos. Ond fe fydd un arall o sgorwyr Cymru yn erbyn yr Alban, Simon Church o Reading, yn teithio gyda charfan Brian Flynn i Sarajevo. Yn ogystal â Church fe fydd Ched Evans, Sam Vokes, Andy King a Joe Allen hefyd yn ymuno gyda'r garfan dan21 ddydd Sul. Mae Cymru ar frig Grŵp 3 ym Mhencampwriaeth Uefa ar ol ennill pedair o'u pum gêm hyd yn hyn. Roeddynt yn fuddugol o 2-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar y Cae Ras yn Wrecsam fis diwethaf. Nos Wener roedd Hwngari yn fuddugol o 2-0 yn erbyn yr Eidal, gyda'r Magyars bellach yn ail yn y grŵp - bedair pwynt y tu ôl i Gymru ond wedi chwarae un gêm yn llai. Carfan dan21 Cymru: Chris Maxwell (Wrecsam) , David Cornell (Abertawe) , Darcy Blake (Caerdydd - ar fenthyg gyda Plymouth), Adam Matthews (Caerdydd), Aaron Morris (Caerdydd), Christian Ribeiro (Bristol City), Ashley Richards (Abertawe), Neil Taylor (Wrecsam), James Wilson (Bristol City - ar fenthyg gyda Brentford), Joe Allen (Abertawe), Billy Bodin (Swindon Town), Mark Bradley (Walsall), Andy King (Caerlŷr), Shaun MacDonald (Abertawe - ar fenthyg gyda Yeovil), Elliot Chamberlain (Caerlŷr), Simon Church (Reading), Ched Evans (Sheffield United), Jake Taylor (Reading), Sam Vokes (Wolves - ar fenthyg gyda Leeds United), Marc Williams (Wrecsam).
 |