BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 15 Tachwedd 2009
Toshack yn cydymdeimlo â Burley

Roedd John Toshack yn cydymdeimlo gyda rheolwr yr Alban George Burley wedi buddugoliaeth Cymru o 3-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

John Toshack a George Burley
Bu cefnogwyr yr Alban yn galw am ben Burley ar ôl gweld eu tîm yn colli yn erbyn Cymru mewn gêm gyfeillgar.

Sgoriodd David Edwards, Simon Church ac Aaron Ramsey goliau yn yr hanner cyntaf i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r tîm cartref.

Yr oedd Toshack yn falch o berfformiad Cymru ond yn teimlo nad oedd y sgôr yn adlewyrchiad teg o'r gêm.

"Mae gen i gydymdeilad hefo George," meddai Toshack wedi'r gêm gyntaf i'w chynnal yng nghartref newydd Caerdydd.

"Fe wnaetho nhw yn dda yn gynnar yn y gêm gyda Wayne Hennessey yn gorfod gwneud arbediad da.

"A ninnau'n dîm ifanc fe all pethau wedi bod yn wahanol pe bydde honno wedi mynd fewn.

"Fe wnaeth sgorio'r gôl gyntaf ein helpu.

"'Dwi'n adnabod George ers peth amser a doedd e ddim yn haeddu'r hyn ddigwyddodd.

"Roedde bi'n haeddu'r fuddugoliaeth, ond doedd hi ddim mor hawdd ag oedd hi'n
ymddangos.

"Doedd hi ddim yn gyfforddus i ni. Roeddwn yn teimlo nad oedd 3-0 ar yr egwyl yn adlewyrchiad teg.

"Ond fe wnaetho ni sgorio tair gôl dda ac roedd hynny yn gwneud hi'n anodd i'r Albanwr ddod nôl, er nad oedd y sgôr yn adlewyrchiad teg o'r gêm.

Mae Toshack yn ffyddiog y bydd ei dîm ifanc yn parhau i ddatblygu cyn y bydd ymgyrch Ewro 2012 yn dechrau fis Medi y flwyddyn nesaf.

"Mae gennym bedair gêm gyfeillgar cyn y bydd y gemau cystadleuol nesaf yn dechrau fis Medi nesaf," meddai cyn hyfforddwr Real Madrid.

"Nid oes gennym gêm tan fis Chwefror ac fe fyddwn yn gwybod grwpiau rowndiau rhagbrofol Ewro 2012 erbyn hynny.

"Y gobaith yw ymhen 10 mis fe fydd y bois hyn wedi datblygu ymhellach.

"Fe allent gael calondid o'r fuddugoliaeth hon, y perfformiad oedd yn peth pwysig."

Ychwanegodd Toshack bod Ramsey wedi bod yn dioddef gydag anaf i'w gefn yn ystod yr wythnos a dyna pam iddo ei eilyddio wedi bron awr o'r gêm.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy