BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 14 Tachwedd 2009
Cymru 3-0 Yr Alban

Disgleiriodd Aaron Ramsey wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth yn erbyn yr Alban gyda thair gôl yn yr hanner cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Aaron Ramseyn dathlu wedi iddo sgorio i Gymru yn erbyn yr Alban

Sgoriodd Ramsey un o'r goliau ac fe chwaraeodd ran amlwg yn y goliau eraill wrth i dîm John Toshack ennill yn rhwydd.

Roedd David Edwards wedi rhoi Cymru ar y blaen cyn i Simon Church rwydo ei gôl ryngwladol gyntaf.

Ac fe sgoriodd seren y gêm Ramsey gôl unigol wych i gwblhau prynhawn cofiadwy i Gymru ac un i'w anghofio i'r Alban.

Roedd y gwledyddd yn cwrdd am y 104fed tro ac hon oedd y gêm ryngwladol gyntaf i'w chynnal yn stadiwm newydd Dinas Caerdydd.

Ac roedd y gêm hefyd yn nodi'r tro cyntaf i Ashley Williams o Abertawe arwain Cymru - yr unfed capten ar ddeg yn ystod teyrnasiad pum mlynedd John Toshack.

Daeth cyfle cyntaf Cymru o fewn y funud agoriadol gyda David Marshall yn gorfod bod yn effro i rwystro cynnig gan Sam Ricketts o'r asgell chwith.

Dri munud yn ddiweddarach y golwr arall Wayne Hennessey fu'n rhaid arbed ergyd James McFadden gyda'i draed wedi croesiad Danny Fox.

Ac fe ddylai ymosodwr Rangers Kenny Miller fod wedi rhoi ei dîm ar y blaen eiliadau wedi hynny ond iddo ergydio heibio'r postyn.

Wedi cyfnod a welodd yr ymwelwyr yn rheoli'r chwarae yn ystod y chwarter awr agoriadol fe ddaeth Cymru fwy fewn i'r gêm.

Simon Church

Yr oedd Joe Ledley wedi gwastraffu cyfle o 25 llath cyn yr aeth Cymru ar y blaen wedi 16 munud.

Cyfunodd Sam Ricketts ac Aaron Ramsey yn dda ar yr asgell dde cyn i groesiad perffaith chwaraewr Arsenal ganfod David Edwards yn y canol.

Sgoriodd Edwards gydag foli pwerus heibio Marshall, y trydydd gôl iddo sgorio dros Gymru.

Chwaraeodd Ramsey ran amlwg yn ail gôl Cymru ddaeth wedi 31 munud.

Cyfunodd Ramsey gyda Joe Ledley cyn i groesiad chwaraewr Caerdydd ganfod Simon Church, dyma'r rhwydo ar y postyn agosaf.

Ar ôl chwarae rhan yn y ddwy gôl, Ramsey sgoriodd y drydedd bedwar
munud yn ddiweddarach.

Roedd hi'n gôl unigol wych gan y chwaraewr 18 oed dyma'n plethu ei ffordd heibio
Gary Caldwell a Darren Fletcher cyn curo Marshall.

Roedd Cymru erbyn hyn yn llawn hyder ac fe welodd Ched Evans ergyd bwerus yn cael ei harbed gan Marshall.

Ni lwyddodd yr Alban i gael gwared â'r bêl ac fe wrthodwyd i'r tîm cartref cic o'r smotyn pan gafodd Simon Church ei wthio i'r llawr gan Graham Dorrans.

Ar ddechrau'r ail hanner fe welwyd newid i linell flaen Cymru gyda Sam Vokes a Rob Earnshaw yn dod ymlaen i'r maes yn lle Church ac Evans.

Ac yn ymosdiad cyntaf Cymru o'r ail hanner roedd golwr yr Alban Marshall yn ffodus i dderbyn cerdyn melyn yn unig ar ôl llawio'r bêl tu allan i'r cwrt cosbi.

Dyfarnwyd cic rhydd i'r Alban tu allan i'r cwrt wedi i'r capten Ashley Williams lawio ond fe ergydiodd James McFadden yn erbyn y mur amddiffynol.

Ac yntau wedi serennu yn ystod yr hanner cyntaf fe ddaeth Aaron Ramsey oddi ar y maes wedi 56 munud gyda Joe Allen yn cymryd ei le.

Manteisiodd y ddau reolwr ar y cyfle i eilyddio gyda Danny Gabbidon yn dod ymlaen i Gymru a Ross McCormack o Gaerdydd yn derbyn ei gyfle i'r Alban.

Fe wnaeth y newidiadau amharu ar lif y gêm, ond roedd Cymru yn gyfforddus gyda David Edwards yn ergydio dros y trawst.

Gyda chwarter awr yn weddill a Cymru yn llwyr reoli fe fentrodd Williams i fyny'r maes gan gyfuno gyda Earnshaw cyn ergydio o bell ond ni draferthwyd Marshall.

Bu'n rhaid i Hennessey wneud dwy arbed gwych i arbed ergyd gan McCormack a pheniad Kevin Kyle.

Ond erbyn hynny roedd yr ornest ar ben wrth i Gymru ennill am y trydydd tro yn olynol yn erbyn yr Albanwyr.


Cymru: Hennessey, Ricketts, Nyatanga (Gabbidon 60), Williams, Morgan, Bale, Ledley (King 80), Ramsey (Allen 57), Edwards (Cotterill 88), Evans (Vokes 45), Church (Earnshaw 45).
Eilyddion: Brown, Easter, Dorman, Matthews, Blake.

Cerdyn melyn: Morgan.

Goliau: Edwards, Church, Ramsey

Yr Alban: Marshall, Hutton, McManus, Gary Caldwell, Fox (Steven Fletcher 55), Dorrans (Robson 71), Darren Fletcher, Cowie (Riordan 78), Miller (Wallace 55), Naismith (McCormack 62), McFadden (Kyle 62).

Eilyddion: Langfield, Gallacher, Berra, Steven Caldwell, Adam.

Cerdyn melyn: Marshall.

Torf: 13,844

Dyfarnwr: Cyrill Zimmermann (Y Swisdir)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy