|
Daw'r anrhydedd i amddiffynnwr Abertawe ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei enwi yn Chwaraewr Cymreig y Flwyddyn a Chwaraewr y Flwyddyn ymysg clybiau Cymru. Nid yw Williams wedi arwain ei glwb eto, a'r chwaraewr 25 mlwydd oed fydd yr unfed capten ar ddegfed i gael ei enwi'n gapten i Gymru o dan teyrnasiad John Toshack dros y pum mlynedd diwethaf. Absenoldeb Craig Bellamy a James Collins ar gyfer y gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd sy'n rhoi'r cyfle i Williams. Bellamy yw'r capten arferol, a Collins gafodd yr anrhydedd yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Liechtenstein pan oedd ymosodwr Manchester City wedi ei wahardd. Mae Joe Ledley hefyd wedi arwain y tîm yn ddiweddar, ac mae disgwyl iddo chwarae brynhawn Sadwrn, ond mae Toshack wedi cael ei blesio yn arw gan berfformiadau ac ymroddiad Williams. Un o'r 18 gêm ddiwethaf mae'r amddiffynnwr wedi ei golli i Gymru ers ennill ei gap gyntaf ym mis Mawrth 2008. Prin roddodd gam o'i le yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Liechtenstein er iddo chwarae mewn safle anghyfarwydd yng nghanol cae am y tro cyntaf ar lefel ryngwladol.
 |