Nid oes unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd os bydd capten Cymru yn chwarae yn y gêm yn Abu Dhabi dydd Iau, sydd yn cael ei gynnal fel rhan o daith City i famwlad perchennog y clwb Sheikh Mansour.
Ar ôl sgorio yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn fe dynnodd Bellamy allan o'r gêm gyfeillgar yn erbyn yr Albanwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd anaf i'w goes.
Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl Droed Cymru, mi gafodd tîm meddygol Cymru wybod gan Manchester City bod Bellamy yn dioddef anaf i'w goes ac y byddai'r chwaraewr yn teithio i Abu Dhabi er mwyn parhau gyda'i driniaeth.
Fy ychwanegodd nad oedden nhw yn disgwyl iddo chwarae.
Mae rheolwr Manchester City a chyn-reolwr Cymru Mark Hughes wedi awgrymu y bydd Bellamy yn cyfyngu ei ymddangosiadau rhyngwladol i gemau cystadleuol yn y dyfodol.
Ym mis Medi eleni, fe fynegodd Bellamy ei siom gyda'r sawl oedd yn amau ei ymrwymiad i dîm Cymru wedi iddo golli'r gêm gyfeillgar yn erbyn Montenegro ym mis Awst.
Fe fethodd Bellamy a theithio gyda'r garfan i Montenegro a bu peth dryswch am gyfnod wedi i'w glwb beidio â chysylltu gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru.
Fe ymddiheurodd y clwb i'r Gymdeithas gyda Bellamy yn mynnu mai camddealltwriaeth oedd y cyfan.
"'Dwi wedi methu fy siâr o gemau rhyngwladol," meddai Bellamy ar y pryd.
"Ond tydw i erioed wedi ffonio i ddweud nad oeddwn wedi chwarae - 'dwi wedi gadael hynny i'r tîm meddygol y clybiau dwi wedi bod hefo.
"Ond oherwydd fy enw 'dwi wastad yn mynd i gael y bai ac felly roedd hi'n siomedig yn enwedig o gofio'r ymroddiad 'dwi wedi dangos," meddai'r chwaraewr sydd wedi ennill 56 o gapiau dros ei wlad.
"Dwi yma ac os byddwn yn ffit 'dwi'n barod i chwarae ond os nad wyf yn ffit 'dwi ddim yn chwarae. Mae mor syml â hynny."
Mae James Collins, Simon Davies a Jack Collison hefyd wedi dweud na fyddan nhw ar gael i dîm John Toshack ddydd Sadwrn.
Mae Collins wedi dioddef anaf i'w goes ac fe gollodd buddugoliaeth Aston Villa yn erbyn Bolton Wanderers ddydd Sadwrn.
Mae rheolwr Villa, Martin O'Neill, wedi dweud na ddylai Collins chwarae i Gymru yn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac y dylai orffwys am bythefnos.
Ac fe fydd Davies o Fulham, sydd wedi colli chwe gem ddiwethaf Cymru, yn absennol; oherwydd anaf i'w droed er iddo chwarae 90 munud i ail dîm Fulham nos Lun.
Yn ddiweddarach, fe gafwyd cadarnhad bod Collison o West Ham United wedi tynnu allan o'r garfan oherwydd anaf i'w benglin, ac mae amheuaeth am Chris Gunter ac Andy King.
Mae chwaraewr canol cae St Mirren Andy Dorman ac amddiffynnwr Caerdydd Adam Matthews wedi eu cynnwys yn y garfan lawn am y tro cyntaf.
Dorman, a anwyd yng Nghaer, yw'r chwaraewr cyntaf i elwa o reol newydd Fifa sy'n caniatáu chwaraewr sydd wedi treulio pum mlynedd o addysg orfodol mewn gwlad benodol i chwarae i'r wlad honno.
Yn ogystal, mae Toshack hefyd wedi cynnwys ymosodwr Nottingham Forest Rob Earnshaw a chwaraewr canol cae Abertawe Joe Allen.
Carfan Cymru: Jason Brown (Blackburn Rovers), David Cornell (Abertawe), Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Danny Gabbidon (West Ham United), Chris Gunter (Nottingham Forest), Craig Morgan (Peterborough United), Lewin Nyatanga (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Adam Matthews (Caerdydd), David Cotterill (Sheffield United), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Caerdydd), Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Allen (Abertawe), Andy Dorman (St Mirren), Rob Earnhsaw (Nottingham Forest) Simon Church (Reading), Ched Evans (Sheffield United), Jermaine Easter (MK Dons), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers).