BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 06 Tachwedd 2009
Galw Cornell i garfan Cymru

Mae golwr ifanc Abertawe David Cornell wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Alban wythnos i ddydd Sadwrn.

David Cornell

Dim ond unwaith y mae'r chwaraewr 18 oed wedi chwarae i'r Elyrch ond mae'r rheolwr John Toshack wedi ei enwi ymhlith y 23 chwaraewr.

Mae'r chwaraewr canol profiadol Simon Davies yn dychwelyd ar ôl colli'r chwe gem ryngwladol ddiwethaf, ac mae'r amddiffynnwr Danny Gabbidon hefyd yn y garfan.

Mae'r chwaraewr canol cae David Vaughan allan oherwydd anaf, felly hefyd golwr Hull Boaz Myhill (pen glin) a'r ymosodwr Robbie Earnshaw (coes).

Er iddo awgrymu yn ddiweddar y bydd o'n ystyried rhoi'r gorau i chwarae gemau rhyngwladol cyfeillgar, mae'r capten Craig Bellamy hefyd yn y garfan ar ôl colli y gêm yn erbyn Liechtenstein oherwydd gwaharddiad.

Mae Toshack wedi ymwrthod a'r temtasiwn i enwi chwaraewr canol cae St mirren Andy Dorman, sydd bellach yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd newid yn rheolau FIFA.

Bellach, mae chwaraewr sydd wedi treulio pum mlynedd o addysg orfodol mewn gwlad benodol yn gymwys i chwarae i'r wlad honno.


Carfan Cymru I wynebu'r Alban: Golwyr: Jason Brown (Blackburn Rovers), David Cornell (Abertawe), Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers) Amddifynwyr: Gareth Bale (Tottenham Hotspur), James Collins (Aston Villa), Danny Gabbidon (West Ham United), Chris Gunter (Nottingham Forest), Craig Morgan (Peterborough United), Lewin Nyatanga (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe) Canol cae: Jack Collison (West Ham United), David Cotterill (Sheffield United), Simon Davies (Fulham), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Caerdydd), Aaron Ramsey (Arsenal) Ymosodwyr: Craig Bellamy (Manchester City), Simon Church (Reading), Ched Evans (Sheffield United), Jermaine Easter (MK Dons), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers)

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy