|
Bu'n rhaid i chwaraewr canol cae Fulham golli'r chwe gêm ryngwladol ddiwethaf ar ôl cael llawdriniaeth ar ei droed. Mae Davies wedi chwarae pedair gêm i'w glwb y tymor yma, ond nid yw wedi cael ei ddewis ers y gêm yng Nghwpan Carling ar ddiwedd mis Medi. Y gred yw y bydd Danny Gabbidon hefyd yn cael ei gynnwys yng ngharfan John Toshack ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae'r amddiffynnwr wedi bod yn dioddef gydag anaf i'w glun ond mae o'n gobeithio dychwelyd i garfan West Ham ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Everton ddydd Sul. Bydd y capten Craig Bellamy hefyd yn ei ôl ar ôl colli'r gêm ddiwethaf yn erbyn Liechtenstein oherwydd gwaharddiad, ond ni fydd y golwr Boaz Myhill na'r ymosodwr Rob Earnshaw ar gael oherwydd anafiadau. Sgoriodd Earnshaw hat-tric y tro diwethaf i Gymru wynebu'r Alban mewn buddugoliaeth o 4-0 yn Stadiwm y Mileniwm pum mlynedd yn ôl. Mae'n bosib y bydd chwaraewr canol cae St Mirren Andy Dorman yn cael ei gynnwys am y tro cyntaf gan ei fod bellach yn gymwys i chwarae dros Gymru o dan reolau newydd. Aeth is-hyfforddwr Cymru, Roy Evans, i wylio Dorman yn chwarae y penwythnos diwethaf. Hon fydd y gêm ryngwladol gyntaf i'w chwarae yng nghartref newydd Caerdydd. Yr Alban oedd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ar Barc Ninian, sef hen gartref yr Adar Gleision, yn 1911. Gêm gyfartal, 2-2 oedd y canlyniad bryd hynny. Mae'r ymwelwyr wedi gwerthu pob un o'r 4,200 o docynnau a ddyrannwyd iddynt. Rhyw 6,000 o docynnau sydd wedi eu prynu gan gefnogwyr Cymru hyd yn hyn.
 |