BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 05 Tachwedd 2009
McCormack yng ngharfan yr Alban

Mae ymosodwr Caerdydd Ross McCormack wedi ei gynnwys yng ngharfan yr Alban ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru ar 14 Tachwedd.

Ross McCormack
Mae McCormack yn holliach unwaith yn rhagor ar ôl bod allan ers mis Awst wedi iddo ddioddef anaf i'w linyn gar yn erbyn Blackpool.

Mae golwr yr Adar Gleision, David Marshall hefyd yn y garfan 23 dyn ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn ogystal â McCormack mae Kevin Kyle o Kilmarnock a James McFadden o Birmingham City hefyd yn dychwelyd i garfan Georgr Burley ar ol colli'r gem yn Siapan fis diwethaf.

Ac fe all amddiffynnwr Celtic Danny Fox ennill ei gap cyntaf yn erbyn Cymru ar ôl iddo dynnu allan o'r garfan ddiwethaf oherwydd anaf.

Ond nid yw Burley wedi cynnwys asgellwr Hearts Andrew Driver, sydd bellach yn gymwys i'r Alban o dan reolau newydd.

Er bod Driver wedi cynrychioli tîm dan21 Lloegr mae'n gymwys i'r Alban gan ei fod wedi derbyn ei addysg yn y wlad,

Mae capten yr Alban Darren Fletcher wedi ei gynnwys yn y garfan er bod chwaraeawr Manchester United yn dioddef gydag anaf i'w bigwrn.


Carfan Yr Alban: Craig Gordon (Sunderland), Jamie Langfield (Aberdeen), David Marshall (Caerdydd), Christophe Berra (Wolves), Gary Caldwell (Celtic), Steven Caldwell (Burnley), Danny Fox (Celtic), Alan Hutton (Tottenham), Stephen McManus (Celtic), Lee Wallace (Hearts), Steven Whittaker (Rangers), Don Cowie (Watford), Graham Dorrans (West Brom), Darren Fletcher (Manchester United), Ross McCormack (Caerdydd), James McFadden (Birmingham), Barry Robson (Celtic), Kevin Thomson (Rangers), Steven Fletcher (Burnley), Kevin Kyle (Kilmarnock), Kenny Miller (Rangers), Steven Naismith (Rangers), Derek Riordan (Hibernian).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy