|
Ar ôl colli yn erbyn y Weriniaeth Tsiec y penwythnos diwethaf fe aeth Cymru ar y blaen wedi 29 munud yn Azerbaijan. Sgoriodd Helen Lander i'w rhoi ar y blaen ond i Ana Atayeva ddod â'r tîm cartref yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach. Ac fe ddaeth gôl fuddugol Azerbaijan cyn yr egwyl gyda Olga Kaziyeva yn sicrhau'r fuddugoliaeth. Yr oedd Cymru wedi gorfod teithio i Azerbaijan heb Jayne Ludlow o Arsenal oedd wedi tynnu allan oherwydd anaf.
Azerbaijan: Ina Boyko, Natalia Suvorovtseva, Tirina Lyubov, Makina Akayevo, Olga Kaziyeva, Toma Besserdechnaya, Ana Atayeva (capt), Narmina Rzayeva, Lyudzmila Butilkina, Golina Kovaleva, Yelena Nobiyeva. Eilyddion: Natalia Kulesheva, Irina Suleymanovo, Farida Bayramova, Nargiz Huseynova, Yekaterina Nosova, Masha Makarova, Olga Safarova. Cymru: Rhian Nokes (Merched Caerdydd), Sally Wade (Watford), Lauren Townsend (Merched Caerdydd), Kerrie Manley (Birmingham City), Emma Jones (capten, Academi Bryste), Katie Daley (Academi Bryste), Emma Plewa (Prifysgol Lee), Cheryl Foster (Lerpwl), Helen Lander (Arsenal), Gwennan Harries (Everton), Jessica Fishlock (AZ Alkmaar). Eilyddion: Sophie Dando (Merched Caerdydd), Sharla Passariello (Academi Bryste), Jasmin Dutton (Tranmere Rovers), Sophie Ingle (Merched Caerdydd), Katie Williams (Lerpwl), Alicia Powe (Merched Abertawe). Dyfarnwraig: Marija Margareta Damjanovic (Croatia).
 |