BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 14 Hydref 2009
Tosh yn falch i orffen yn bositif

Dywedodd John Toshack ei fod yn ddigon bodlon gyda buddugoliaeth Cymru yn erbyn Liechtenstein nos Fercher.

Aaron Ramsey yn dathlu sgorio i Gymru am y tro cyntaf
Roedd goliau gan David Vaughan ac Aaron Ramsey yn ddigon i drechu tîm gwaetha'r grŵp yn Vaduz yng ngem olaf yr ymgyrch aflwyddiannus yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010.

A dywedodd Toshack: "Roeddem ni'n haeddu ennill ac efallai y bydda ni wedi gallu sgorio un neu ddwy arall. Dwi'n hapus gyda'r canlyniad.

"Roedd 'na chwech neu saith gyfle da i sgorio. Aeth dau o'r rheini i mewn ac ar y cyfan roedd hi'n ganlyniad haeddiannol.

"Fe roddom ni'r bêl i ffwrdd ar adegau yn wastraffus. Roedd lle i wella o ran safon y chwarae ond roedd yr ymdrech yno - fedra i ddim beirniadu'r chwaraewyr am hynny."

Roedd James Collins yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf yn absenoldeb Craig Bellamy, a dywedodd yr amddiffynnwr mai ennill oedd y peth pwysig.

"Mae hi wastad yn braf ennill," meddai Collins, oedd ddim ar ei orau nos Fercher.

"Dwi ddim yn rhy hapus gyda'r perfformiad ond mae hi'n anodd dod i le fel hyn felly 'da ni'n hapus i ennill.

"Fe wnaeth Liechtenstein pethau'n anodd i ni. Fe gawsom ddigon o feddiant ond roedden nhw'n anodd eu torri i lawr. Fe wnaethom ni gadw ati yn dda."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy