|
Dyma'r tro cyntaf i Abertawe lwyfannu gornest ryngwladol ers i'r tîm llawn wynebu Georgia mewn gêm gyfeillgar fis Awst y llynedd.
Nid yw Cymdeithas Bêl Droed Cymru eisoes wedi cadarnhau amser y gic gyntaf yn y Liberty.
Bydd tîm Brian Flynn hefyd yn wynebu Hwngari ar y Cae Ras ar nos Fercher, 12 Awst.
Mae'r tîm eisoes wedi chwarae ddwywaith yn y grŵp gan sicrhau gêm gyfartal yn Lwcsembwrg cyn eu trechu 5-1 ar Barc y Scarlets.
 |