|
Mae chwaraewr West Ham a Chymru wedi bod allan ers deunaw mis yn dioddef gydag anaf abdomenol.
Ond ar ôl derbyn llawdriniaeth mae Gabbidon yn edrych ymlaen at y tymor newydd ac fe fydd yn dychwelyd i ymarfer gyda West Ham ddydd Llun.
"Mae rhywun yn isel ar adegau ac yn meddwl pryd fydde chi'n ôl," meddai Gabbidon.
"Ond mae'n rhaid i chi aros yn bositif oherwydd tydi bod yn negatif ddim yn helpu.
Gabbidon, ddechreuodd ei yrfa gyda West Bromwich Albion, oedd Chwaraewyr y Flwyddyn West Ham yn 2005/06.
Ond ers hynny mae cyfres o anafiadau wedi amharu ar ei yrfa yn Upton Park ac nid yw Gabbidon wedi chwarae dros Gymru ers mis Tachwedd 2007.
Bu'r chwaraewr sydd wedi ennill 40 cap dros ei wlad yn ymarfer gyda charfan John Toshack oedd yn paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Estonia ym mis Mai.
"Roedd hynny'n hwb mawr ar ddiwedd fy nghyfnod anoddaf ym mhêl-droed," meddai cyn amddiffynnwr Caerdydd.
"Roedd y chwaraewyr hefyd yn wych. Roedde nhw'n hapus i fy ngweld yn ôl allan yn ymarfer ar ddiwedd y tymor diwethaf ac roedd hynny'n braf.
"Ond mae hi wedi bod yn anodd peidio cael gwneud y gwaith 'da chi'n ei fwynhau a rhywbeth 'da chi'n cymryd yn ganiataol pan 'da chi'n chwarae'n rheolaidd.
"Da chi'n fwy penderfynol ac eisiau bod allan ar y maes pan fo chi'n gweld eich cyd chwaraewyr yn chwarae.
Bu Gabbidon yn cymryd rhan mewn gêm i nodi agoriad stadiwm newydd Dinas Caerdydd yn Leckwith ddydd Sadwrn.
Roedd yn aelod o dîm sêr Lennie Lawrence oedd yn fuddugol o 3-1 yn erbyn sêr Eddie May yng nghartref newydd yr Adar Gleision.
Ac mae'r gŵr a anwyd yng Nghwmbrân yn awr yn gobeithio chwarae i West Ham yn erbyn Grays mewn gêm gyfeillgar ar 12 Gorffennaf.
Mis yn ddiweddarach ar 12 Awst fe fydd Cymru yn teithio i Montenegro ar gyfer gêm gyfeillgar gyda Gabbidon yn gobeithio chwarae rhan.
"'Dwi'n croesi bysedd y byddwn yn ôl ar gyfer dechrau'r tymor newydd," ychwanegodd Gabbidon.
 |