|
Roedd yr Unol Daleithiau ar y blaen o 2-0 ar yr egwyl yn Ellis Park diolch i goliau Clint Dempsey a Landon Donovan.
Ond tarodd Brasil yn ôl yr ail hanner gyda Luis Fabiano yn lleihau'r fantais ac fe ddylai Kaka wedi unioni'r sgôr ond i'r dyfarnwr beidio sylwi bod y bel wedi croesi'r llinell.
Roedd Brasil yn gyfartal gyda 16 munud yn weddill diolch i beniad Fabiano cyn i'r capten Lucio sicrhau'r fuddugoliaeth gyda phum munud yn weddill.
 |