|
Collins sydd wedi bod yn bennaeth ar bêl-droed Cymru ers 1995, ond fe fydd yn rhoi'r gorau iddi ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 65 oed ym mis Ionawr. "Mae'r 15 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyffrous iawn," dywedodd Collins. "Mae hi wedi bod yn her a dwi wedi mwynhau'r swydd yn fawr. "Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac am hynny dwi'n hynod ddiolchgar i gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru." Ategodd Collins, sydd wedi ceisio moderneiddio'r Gymdeithas ers cymryd yr awenau oddi wrth Alan Evans, mai ei brif siom oedd peidio gweld Cymru yn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd neu Pencampwriaeth Ewrop. Ond mynnodd ei fod yn hyderus mai'r rheolwr presennol John Toshack yw'r dyn i arwain y tîm cenedlaethol i lwyddiant yn y dyfodol.
 |