BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
10fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 08 Mehefin 2009
Ysbryd da yn y garfan - Gunter

Dywed Chris Gunter bod buddugoliaeth Cymru oddi cartref yn Azerbaijan wedi bod yn brofiad amhrisiadwy i'r garfan ifanc.

Chris Gunter

Bu'n rhaid i'r tîm cenedlaethol deithio i Baku heb nifer o'r chwaraewyr profiadol fel Craig Bellamy, Simon Davies a James Collins.

Ar ôl colli yn erbyn y Ffindir a'r Almaen yng Nghaerdydd yn y gwanwyn, roedd llawer wedi ofni y byddai Azerbaijan yn trechu tîm ifanc Cymru.

"Yr oedd angen i ni sicrhau canlyniad," meddai Gunter mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

"Byddai pobl wedi bod yn gofyn cwestiynau pe bydde ni wedi dychwelyd o Azerbaijan heb ennill.

"Fe welsom ni Gymru yn dod yma ychydig flynyddoedd yn ôl a chael gêm gyfartal 1-1 ac felly roedde ni'n gwybod na fydde hi'n hawdd.

"Ond wrth edrych yn ôl 'da ni'n fodlon iawn ac roedde ni angen hynny.

"Ni fydd hyn yn gwneud yn iawn am y canlyniad yn erbyn y Ffindir ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen yn awr.

"A gobeithio y bydd y canlyniad a'r perfformiad yn gwneud hynny."

Dywed Gunter bod yr ysbryd o fewn carfan ifanc Cymru wedi bod yn dda wrth baratoi ar gyfer y gêm yn Baku.

"Mae'r awyrgylch o fewn pêl-droed Cymru wedi bod yn isel," ychwanegodd amddiffynnwr Spurs.

"Ond ers i ni gwrdd tridiau cyn y gêm yn erbyn Estonia'r wythnos ddiwethaf roedde ni'n bositif.

"Roedd 'na ambell i chwaraewr newydd ac roedd yr awyrgylch yn un da o fewn y garfan.

"Mae'r bobl sydd wedi dod fewn wedi gwneud yn dda ac fe fydd yn rhaid i'r rheolwr ystyried hynny."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy