|
Sicrhaodd tîm ifanc John Toshack eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yng Ngrŵp 4 rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010 yn Baku.
Sgoriodd Edwards ei ail gol dros Gymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar ôl rhwydo yn erbyn Liechtenstein yng Nghaerdydd y llynedd.
"Roedd hi'n berfformiad da gan y tîm yn yr hanner cyntaf," meddai chwaraewr canol cae Wolverhampton Wanderers.
"Yn yr ail hanner bu'n rhaid i ni ddangos cymeriad ac mae'n hwb dod o'ma gyda thri phwynt wedi canlyniadau siomedig yn y gemau diwethaf.
"Roedd hi'n anodd iawn yn yr ail hanner gan iddyn nhw daflu popeth atom ond fe wnaetho ni ddelio'n dda gyda hynny.
"Mi ddyle hyn roi gobaith i'r cefnogwyr ac i'r wlad ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r tîm hwn yn mynd i fod gyda'i gilydd am gryn amser ac mae 'na gred mawr y galle ni un diwrnod gyrraedd un o'r prif gystadlaethau.
"Dyma'r math o lefydd lle mae angen i chi sicrhau buddugoliaethau os am gyrraedd prif gystadleuaeth a bydd hyn yn brofiad da i ni."
 |