BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 19 Tachwedd 2008
Anafiadau yn cynnig cyfle - Tosh

Dywed John Toshack bod absenoldeb nifer o chwaraewyr canol cae allweddol yn cynnig cyfle gwych i ieuenctid Cymru.

John Toshack

Bydd Simon Davies, Jason Koumas Joe Ledley a Carl Fletcher yn colli'r gêm gyfeillgar yn erbyn Denmarc nos Fercher oherwydd anafiadau.

Mae rheolwr Cymru wedi cadarnhau eisoes y bydd Aaron Ramsey a Jack Collison yn dechrau'r gêm yn Stadiwm Brondby.

Er yn cydnabod bod absenoldeb chwaraewyr profiadol yn ergyd bydd y gêm gyfeillgar yn cynnig cyfle gwych i'r to iau.

"'Dwi'n edrych ymlaen at gael gweld y chwaraewyr ifanc yn perfformio," meddai Toshack. "'Dwi'n edrych ymlaen at weld sut y bydde nhw'n ymdopi.

"'Da ni'n dysgu mwy am y chwaraewyr ifanc gyda phob sesiwn ymarfer.

"Beth bynnag fydd y canlyniad 'dwi'n siŵr y byddwn yn dysgu mwy am rhai o'r chwaraewyr."

Aaron Ramsey yw'r enw fu ar flaen tafod pawb wrth edrych ymlaen at y gêm yn Brondby nos Fercher.

Nid oedd gan Toshack unrhyw amheuaeth ynglŷn â chynnwys chwaraewr canol cae Arsenal yn y tîm llawn am y tro cyntaf.

"Roedd hi'n fwriad gennym i gynnwys Aaron yn y gêm hon," meddai rheolwr Cymru.

"Nid fe yw'r cyntaf 'da ni wedi taflu mewn. Roedd David Cotterill, Lewin Nyatanga a Gareth Bale hefyd yn 17 oed pan ddaetho nhw fewn i'r tîm.

"Mae o ymysg ffrindiau a chwaraewyr ifanc eraill mae'n adnabod ac wedi cyd chwarae hefo.

"Ond tydw i ddim eisiau pwysleisio gormod ar Ramsey."

Mae Toshack yn disgwyl gêm anodd yn erbyn tîm sydd ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010.

Ond mae'n ffyddiog y gall ei dîm adeiladu ar berfformiadau calonogol diweddar yn Rwsia a'r Almaen.

"Yr hyn sy'n rhaid i ni wneud yw ceisio symud ymlaen a pharhau gyda'r pethau 'da ni wedi bod yn gwneud yn dda," meddai Toshack.

"'Da ni wedi ymdopi yn dda yn y gemau 'da ni wedi chwarae.

"'Da ni wedi bod ym Mwlgaria a Slofacia ac wedi bod yn ffodus i gael canlyniadau da ar ôl bod o dan bwysau."

Bydd sylwebaeth lawn o'r gêm ar BBC Radio Cymru ac ar bbc.co.uk/chwaraeon, y gic gyntaf am 1915 GMT


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy