|
Ond mae rheolwr Cymru wedi cydnabod bod yr amddiffynnwr James Collins yn debygol o golli'r gemau yn erbyn Azerbaijan a Rwsia. Mae Toshack yn gobeithio y bydd Bellamy yn cael ei gynnwys yng ngharfan West Ham i wynebu Blackburn ddydd Sadwrn. Dyw Bellamy heb chwarae gem y tymor yma ers iddo anafu llinyn y gar wrth baratoi am y tymor newydd. Er nad oes disgwyl i Freddy Eastwood wella o'i anaf mewn pryd i chwarae i Coventry dros y penwythnos, mae Toshack yn disgwyl iddo fod ar gael i Gymru. Mae Toshack eisoes wedi ychwanegu amddiffynnwr Middlesbrough, Rhys Williams, ac ymosodwr Nottingham Forest, Rob Earnshaw, i'r garfan.
Carfan Cymru: Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (Hull City) , Lewis Price (Derby County), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), James Collins (West Ham), Steve Evans (Wrecsam), Chris Gunter (Tottenham Hotspur), Craig Morgan (Peterborough United), Sam Ricketts (Hull City), Ashley Williams (Swansea City), Rhys Williams (Middlesbrough), Andrew Crofts (Gillingham), Simon Davies (Fulham), David Edwards (Wolves), Carl Fletcher (Crystal Palace), Owain Tudur Jones (Abertawe), Jason Koumas (Wigan Athletic), Joe Ledley (Caerdydd), Paul Parry (Caerdydd), Aaron Ramsey (Arsenal), Carl Robinson (Toronto FC), Brian Stock (Doncaster Rovers), Craig Bellamy (West Ham), David Cotterill (Sheffield United), Freddy Eastwood (Coventry City), Ched Evans (Manchester City), Sam Vokes (Wolves), Robert Earnshaw (Nottingham Forest)
 |