Er gwaethaf cyflwr y cae mwdlyd ac anwastad, Cymru ddangosodd yr awydd i gadw'r meddiant ac i basio'n ddestlus yn erbyn tîm ddaeth o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop 2008.
Fe lwyddodd tîm John Toshack i ffrwyno bygythiad Norwy oedd yn cynnwys chwech o chwaraewyr o glybiau Uwchgynghriair Lloegr yn eu rhengoedd.
Roedd goliau Koumas wedi 61 a 89 o funudau yn goron ar berfformiad ail-hanner campus gan y chwaraewr Wigan oedd yn barod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn absenoldeb nifer o aelodau amlycaf o'r garfan.
Yr ymwelwyr ddechreuodd orau, ond er yr holl feddiant prin oedd y bygythiad i gol Wayne Hennessey.
Ond wrth i Gymru ganfod eu traed, fe rwygodd Freddie Eastwood yr amddiffyn gyda phas i Carl Fletcher wedi 15 munud, ac fe gwblhaodd y gŵr o Crystal Palace ei rediad gan rwydo heibio Hakon Opdal am ei gol gyntaf dros ei wlad.
Fe gafodd Koumas gyfle i ddyblu'r fantais gydag ergyd wedi 36 munud gan orfodi Opdal i arbed yn isel.
Dwy funud yn ddiweddarach fe gafodd John Arne Riise gyffyrddiad pwysig i atal Simon Davies yn dilyn gwaith da lawr yr asgell chwith rhwng Joe Ledley a Sam Ricketts.
Fe ddaeth cyfle gorau Norwy munudau cyn yr egwyl gydag ergyd gan Mortem Gamst.
Ar ddechrau'r ail hanner fe wastraffodd Christian Grindheim gyfle euraidd i unioni'r sgôr pan beniodd heibio'r postyn ac yntau'n rhydd yn y cwrt cosbi.
Wedi hynny fe ddechreuodd Cymru reoli gyda'r postyn yn achub yr ymwelwyr ar ddau achlysur.
Yn gyntaf fe welodd David Edwards ei ergyd isel yn taro'r pren wedi arbediad da gan yr eilydd Rune Jarstein.
Ac yna fe darodd Koumas y postyn gyda chic gosb ar ochr chwith y cwrt cosbi.
Ond fe gafodd Cymru eu gwobr haeddiannol am eu parodrwydd i chware pêl-droed creadigol o dan amgylchiadau anodd wedi 62 o funudau.
Ar ôl derbyn y bel oddi wrth Chris Gunter, fe ddawnsiodd Koumas heibio dau amddiffynnwr cyn plannu'r bel yng nghornel y rhwyd.
Ac fe seiliwyd perfformiad campus munud cyn y diwedd wrth i David Edwards arwain gwrthymosodiad chwim cyn cadw ei ben er mwyn caniatáu i Koumas hawlio ei ail o'r gêm.
Cymru: Hennessey (Price 45), Ricketts (Eardley 59), Morgan, Nyatanga, Gunter, Simon Davies (Craig Davies 59), Robinson (Crofts 66), Fletcher, Koumas, Ledley (Edwards 45), Eastwood (Cotterill 59).
Eilyddion (heb eu defnyddio): Arron Davies, Earnshaw, Evans, Easter.
Goliau: Fletcher 15, Koumas 62, 89.
Norwy: Opdal, Storbaek, Hangeland (Kippe 61), Kah, John Arne Riise, Braaten, Andresen, Stromstad (Grindheim 45), Nevland (Bjorkoy 77), Pedersen, Carew (Haestad 45).
Eilyddion (heb eu defnyddio): Hoiland, Brenne, Jarstein.
Dyfarnwr: David Mckeon (Gwer Iwerddon)