BBC HomeExplore the BBC

SUL
5ed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 22 Tachwedd 2007
Toshack yn clodfori chwaraewyr Cymru

Mae rheolwr Cymru John Toshack wedi siarad am ei falchder yn ei chwaraewyr ifanc frwydrodd i sicrhau gem ddi-sgôr yn erbyn yr Almaen.

John Toshack gyda Sam Ricketts
"Wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, roeddwn i yn synhwyro y bydden ni'n llwyddo i gael canlyniad. Roedd hi'n waith caled eithriadol, ond fe wnaethon nhw yn arbennig o dda yn fy marn i," meddai Toshack.

"Dwi i'n hynod o falch gyda nhw, yn enwedig o ystyried nifer y chwaraewyr oedd yn absennol."

Er i Gymru fethu a chreu nifer fawr o gyfleoedd yn Frankfurt, fe arhosodd yr amddiffyn yn gadarn, gyda Danny Gabbidon a James Collins yn perfformio'n arwrol yn y cefn.

Er iddyn nhw sicrhau pwynt annisgwyl, fe gwympodd tîm Toshack i'r pumed safle yng ngrŵp 10 ar ôl i Slofacia guro San Marino.

Fe ddaeth y canlyniad campus yn erbyn yr Almaen, tridiau ers i Gymru achub pwynt erbyn Gweriniaeth Iwerddon, gan sicrhau diweddglo calonogol i'r ymgyrch.

"Fe gollon ni sawl chwaraewr ar hyd y ffordd, a bu'n rhaid i nifer o chwaraewyr ifanc sefyll yn y bwlch," meddai Toshack.

"Cafwyd perfformiadau siomedig oddi-cartref yng Nghyprus ac yn Nulyn ac wedyn adref yn erbyn yr Almaen a Slofacia.

"Ond wedi dweud hynny roedd wyth o'r perfformiadau yn rhai da, felly mae wyth allan o 12 yn ganran digon boddhaol ar y cyfan."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy