"'Dw i'n teimlo bod hwn yn amser da, yr adeg gywir i ymddeol ond mae e wedi bod yn benderfyniad anodd i mi," meddai Giggs.
"'Dw i wedi mwynhau chwarae dros fy ngwlad ac wedi mwynhau bod yn gapten ar fy ngwlad. Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd."
Ymateb Nic Parri
Cyfaddefodd Giggs ei fod wedi ei chael hi'n anodd cyfuno ei ddyletswyddau gyda Chymru a Manchester United.
"Bydd hyn yn fy helpu. Bydd modd i mi gael seibiant yn ystod y tymor ac yn amlwg bydd Manchester United yn elwa o hynny gan na fydda i'n chwarae gymaint o gemau," meddai.
"Ond bydd hefyd yn helpu Cymru - dw i ddim yn teimlo fy mod wedi perfformio cystal ag y gallwn.
"Gobeithio y bydd hyn nid yn unig yn ymestyn fy ngyrfa ond y bydda i'n fwy ffres ac yn fy ngalluogi i fwynhau fy mlynyddoedd olaf."
Mae asgellwr Manchester United wedi bod yn nhîm buddugol Uwchgynghrair Lloegr fwy nag unrhyw chwaraewr arall.
Ond mae ei benderfyniad i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn golygu na chaiff y cyfle i chwarae mewn prif gystadleuaeth.
RYAN GIGGS:
Capiau Cymru: 64 (gan gynnwys Gweriniaeth Siec)
Goliau Cymru: 12
Gêm gyntaf: Hydref 1991 v Yr Almaen (Nuremberg)
Gêm olaf: Mehefin 2007 v Gweriniaetbn Siec (Caerdydd)
Man geni: Caerdydd
Dyddiad Geni: 29/11/1973
Clybiau: Manchester United.
|
Bydd Giggs, 33, yn cynrychioli ei wlad am y tro olaf yn erbyn Gweriniaeth Siec yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2008 yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Credir i Giggs, fydd yn ennill cap rhif 64 ddydd Sadwrn, wneud ei benderfyniad ar ôl i Gymru golli yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fis Mawrth.
Mae'n debyg iddo roi gwybod i swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl y gêm gyfartal yn erbyn Seland Newydd ar y Cae Ras ddydd Sadwrn
Cafodd gweddill y garfan wybod am benderfyniad Giggs nos Fawrth wrth iddyn nhw ymgynnull yn eu gwesty yng Nghaerdydd.
Bydd y newyddion yn ergyd fawr i John Toshack, sydd wedi dweud mai'r brif nod yw Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica.
Er y byddai'n agosau at 36 erbyn hynny, byddai ei brofiad wedi bod yn hanfodol i'r garfan ifanc.
Enillodd Giggs ei gap cyntaf dros Gymru fel eilydd yn erbyn Yr Almaen yn Hydref 1991.
Ar y pryd fe oedd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli ei wlad, ac yntau yn 17 mlwydd a 321 diwrnod oed.
Cafodd ei benodi'n gapten Cymru gan Toshack ar ôl i Gary Speed ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.