BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 11 Mai 2007
Ludlow'n feirniadol o'r FAW

Roedd capten tîm merched Cymru, Jayne Ludlow, yn feirniadol o'r Gymdeithas Bêl-droed wedi i Gymru golli yn erbyn Yr Almaen yn ngemau rhagbrofol Ewro 2009 nos Iau.


Cafodd merched Cymru grasfa 0-6 yn erbyn yr Almaenwyr yn Hwlffordd nos Iau yn eu gêm agoriadol yng ngrŵp.

Rhwydodd Brigit Pinz, chwaraewyr y flwyddyn Fifa yn 2005, hat-trick wrth i Bencampwyr y Byd sicrhau buddugoliaeth gyfforddus ar Ddol y Bont.

Ac er nad oedd disgwyl i Gymru guro'r Almaen, sydd wedi ennill pedwar Pencampwriaeth Ewrop o'r bron, roedd Ludlow'n chwyrn iawn ei beirniadaeth o'r FAW a'r diffyg arian sydd ar gael.

"Mae'n sefyllfa hurt, mae'n rhywbeth 'dwi wedi dioddef trwy gydol fy ngyrfa gyda'r FAW," meddai Ludlow, sydd yn rhan o dîm llwyddiannus merched Arsenal enillodd Uwchgynghrair Lloegr, Cwpan FA Lloegr a Chwpan Uefa y tymor yma.

"Mae pêl-droed merched yn cael lot fawr o sylw, ond 'does 'na'm llawer o arian yn cael ei roi i mewn i'r gêm yn y wlad yma.

"Roedden ni'n gobeithio mynd i chwarae yng Nghwpan yr Algarve a chwarae pedair gêm gyfeillgar mewn wythnos ond ni fydd hynny'n digwydd rŵan am ryw reswm neu'i gilydd.

"'Dwn i ddim be' mae pobl yn disgwyl pan 'da ni ond yn cwrdd dwywaith y flwyddyn, os hynny," ychwanegodd.

Ymatebodd llefarydd ar ran yr FAW trwy ddweud: "Mae tîm merched Cymru wedi chwarae naw gêm ryngwladol y tymor yma - mwy nag erioed o'r blaen.

"Dyn ni wrthi'n trefnu calendr y tymor nesaf ac rydym yn gobeithio bydd modd trefnu gêm gyfeillgar cyn y gêm nesaf yn erbyn yr Iseldiroedd (ym mis Awst)."

Mae Cymru yng Ngrŵp 4 o rowndiau rhagbrofol Ewro 2009 ynghyd â'r Almaen, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a'r Swistir.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy