Penderfynodd Uefa anwybyddu cynnig y ffefrynnau, Yr Eidal, welodd achosion llwgrwobrwyo dyfarnwyr y tymor diwethaf a thrais y tymor yma yn taflu cysgod dros eu cais.
Mae'r fuddugoliaeth yn awgrymu cyfnod newydd i Uefa a cham cyntaf pwysig i'r llywydd newydd, Michel Platini.
Cafodd cyn chwaraewr canol cae Ffrainc gefnogaeth nifer o wledydd dwyrain Ewrop pan gafodd ei ethol yn llywydd y corff yn gynharach eleni.
Awgrymodd gohebydd BBC Five Live, Nigel Adderley, bod y penderfyniad yn ergyd fawr i bêl-droed Yr Eidal.
"Roedd y sioc ar wyneb Michel Platini yn amlwg wrth iddo wneud y cyhoeddiad," meddai.
"Neithiwr roedd aelodau pwyllgor Uefa yn awgrymu y dylent ddewis pâr saff o ddwylo.
"Roedden nhw'n lled awgrymu bod Yr Eidal yn wlad â phrofiad o gynnal pencampwriaeth fel hyn er yr holl broblemau diweddar."
|
PENCAPWRIAETH EWROP
1960 Ffrainc
1964 Sbaen
1968 Yr Eidal
1972 Gwlad Belg
1976 Yugoslafia
1980 Yr Eidal
1984 Ffrainc
1988 Gorll. Almaen
1992 Sweden
1996 Lloegr
2000 Belg a'r Iseldiroedd
2004 Portiwgal
2008 Awstria a'r Swistir
|
Yn ôl ffynonellau o fewn Uefa, llwyddodd Gwlad Pwyl a'r Wcráin i ennill yr hawl i gynnal y bencampwriaeth yn y rownd bleidleisio agoriadol wrth iddynt gasglu wyth o'r 12 pleidlais - cafodd Yr Eidal bedair pleidlais gyda neb yn dewis cais Hwngari a Chroatia.
Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw un o wledydd dwyrain Ewrop gynnal y gystadleuaeth ers Yugoslafia ym 1976.
"O'r diwedd, mae gemau mawr yn dod i wledydd lle nad oes yr un cyfle wedi bod i ddatblygu pêl-droed," meddai cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl, Michal Listkiewicz.
"Bydd y bencampwriaeth anferth yma'n garreg filltir yn hanes y ddwy wlad Slafaidd."
Roedd cais Gwlad Pwyl a'r Wcráin yn un hynod drawiadol gydag ymosodwr Chelsea, Andriy Shevchenko, golwr Lerpwl, Jerzy Dudek, yn ogystal â'r bocsiwr, Vitali Klitschko, cyn bencampwr naid â pholyn y Gemau, Sergei Bubka a llywydd Wcráin, Victor Yushchenko, yn annerch y cyfarfod.
Bydd pedair dinas yn yr Wcráin - Dnipropetrovsk, Donetsk, Kiev a Lviva - a chwe lleoliad yng Ngwlad Pwyl - Gdansk, Krakow, Poznan, Warsaw, Wroclaw a Chorzow - yn cael eu defnyddio.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan 12 aelod pwyllgor gweithredol Uefa yn eu cynhadledd yng Nghaerdydd.