|
Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw brys i'r prif eisteddle ar Barc Windsor ac mae Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon wedi methu rhoi sicrwydd y bydd y gêm yn cael ei chwarae.
Dywedodd Howard Wells, prif weithredwr yr IFA, wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru: "Rydym angen gweithio ar ambell ran o'r stadiwm ac rydym yn ymdrechu'n galed i sicrhau bydd y gêm yn mynd yn ei blaen.
"Rydym wedi addo gadael i'r FAW wybod yn union beth yw'r sefyllfa, ond rydym yn angen sicrhad ein hunain bod y gêm yn gallu mynd yn ei blaen erbyn dydd Iau fan bellaf."
Daeth y problemau i'r amlwg wedi i glwb Linfield, sydd berchen y maes, gomisiynu adroddiad er mwyn asesu pa mor addas yw Windsor Park ar gyfer pêl-droed rhyngwladol.
Un o'r prif bryderon yw'r ffaith bod ysmygu yn cael ei ganiatáu yn eisteddle'r de, sydd yn eisteddle pren.
 |