|
Mae Jones, cwblhaodd ei drosglwyddiad o Manchester United wedi mis ar fenthyg ar Pride Park am ffi o dros £1 miliwn, yn gymwys i chwarae dros Loegr a Chymru.
Mae Jones wedi cynrychioli tîm dan-21 Lloegr mewn gêm gyfeillgar, sy'n golygu ei fod yn dal yn gymwys i chwarae dros Gymru.
"Nid wyf wedi cau'r drws ar y posibilrwydd o chwarae dros Gymru rhyw ddydd," meddai Jones wrth y Daily Post.
"Rwyf wedi gwrthod ymuno ag ambell i gyfarfod â charfan Lloegr yn ddiweddar er mwyn sefydlu fy hun a chwarae'n rheolaidd â chlwb cyn meddwl am unrhyw beth arall.
"Roedd yn anodd mynd i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol pan nad oeddwn yn chwarae'n rheolaidd ag United.
"Ond rwy'n bod yn amyneddgar ar y funud. Rwyf eisiau gwneud yn dda gyda Derby County a gadael y gweddill i'r dyfodol."
Bydd Jones yn rhan o dîm Derby fydd yn herio Wrecsam yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.
Roedd Jones, oedd yn aelod o dimau ieuenctid y Dreigiau, ar Y Cae Ras pan drechwyd Arsenal yn nhrydedd rownd y gwpan ym 1992.
> Cofio buddugoliaeth hanesyddol
A chafodd brofiad o sioc yn y gwpan pan chwaraeodd 90 munud i Manchester United yn eu gêm gyfartal 0-0 ag Exeter City yn Old Trafford yn 2005.
"Mae'n profi be all ddigwydd yn y gwpan a bod yr hyn sydd yn edrych fel gêm hawdd ar bapur yn gallu bod yn anodd," meddai Jones.
"Mae pawb yn Derby yn ymwybodol o'r hyn sydd ei angen i ni gyrraedd y rownd nesaf."
 |