Rhwydodd Jason Koumas ddwy gôl odidog yn erbyn tîm roedd John Toshack wedi dewis eu herio oherwydd eu tebygrwydd i San Marino.
Tarodd chwaraewr canol cae West Brom ddwywaith yn ystod yr hanner cyntaf ag ergydion bendigedig o bell.
A choronwyd y perfformiad â dwy gôl hwyr wrth i Craig Bellamy rwydo cyn i ymosodwr Lerpwl greu gôl i'r eilydd, Chris Llewellyn.
adrodiad Ian Gwyn Hughes
Roedd cyflymder a sgiliau Bellamy yn creu problemau lu i Liechtenstein oedd yn chwarae eu gêm gyntaf o dan eu rheolwr newydd, Urs Meier.
Ond Koumas gafodd y gôl agoriadol wrth iddo gosbi amddiffyn yr ymwelwyr am beidio pwyso ar ymosodwyr Cymru.
Carlamodd i mewn o'r asgell chwith gan ddawnsio heibio un dacl a chrymanu ergyd gelfydd â'i droed dde i gefn y rhwyd.
Bu ond y dim i Bellamy ddyblu'r fantais o fewn tri munud ond arbedodd golwr Liechtenstein, Peter Jehle, yn wych wrth droi'r ergyd yn erbyn y postyn a chafodd golwr Boavista fymryn o lwc wrth i'r bêl adlamu oddi ar y postyn ac yn syth i'w ddwylo.
Daeth yr ail gôl funud yn ddiweddarach wrth i Koumas gasglu pas Ryan Giggs a thanio chwip o ergyd o ochr y cwrt cosbi i gefn y rhwyd.
Cafwyd llu o gyfleoedd wrth i Bellamy ac Earnshaw ergydio fodfeddi heibio'r postyn dro ar ôl tro, ond roedd Liechtenstein hefyd yn bygwth wrth iddynt wrthymosod.
Manteisiodd Beck ar gamddealltwriaeth gan Sam Ricketts a Lewin Nyatanga ar yr asgell chwith i dorri drwy'r amddiffyn, ond roedd Jason Brown yn sydyn iawn wrth ymateb a llwyddodd i droi'r ergyd dros y trawst ac allan am gic gornel.
Roedd Steve Evans, oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru lai na chwe mis ers ymuno â Wrecsam o TNS yn Uwchgynghrair Cymru, yn gawr yn yr amddiffyn, a llwyddodd hefyd i ddangos ei ddoniau ymosodol ar sawl achlysur wrth i Gymru bwyso am fwy o goliau.
Tarodd y cefnwr chwith, Ricketts, y trawst cyn i Earnshaw fethu dau gyfle euraidd a bu ond y dim i Christof Ritter droi'r bêl i'w rwyd ei hun o groesiad Bellamy.
Cafodd Giggs a Richard Duffy eu heilyddio ar ddechrau'r ail hanner wrth i Toshack newid o system 4-4-2 i system 5-3-2 gyda Carl Fletcher yn symud i ganol yr amddiffyn, Joe Ledley yn dod i'r maes yn safle'r cefnwr chwith a chyda Ricketts yn symud i'r dde.
Parhaodd Bellamy, oedd wedi cymryd rôl y capten ers i Giggs adael y maes, ac Earnshaw i greu trafferthion i'r ymwelwyr a chafodd Koumas gyfle am ei hat-trick ond, am unwaith, llwyddodd Jehle i gael ei gorff tu ôl i'r bêl.
Daeth Llewellyn ymlaen yn lle Earnshaw cyn i Mark Jones ddod i'r maes i ennill ei gap cyntaf a llwyddodd chwaraewr canol cae Wrecsam i wneud ei farc o fewn dim.
Cyfunodd yn hyfryd â Bellamy yn y cwrt cosbi cyn bwydo ymosodwr Lerpwl i danio ergyd i do'r rhwyd.
Yn y funud olaf llwyddodd Bellamy i greu gôl i Llewellyn wrth greu lle yn y cwrt cosbi cyn tynnu pas gelfydd yn ôl i ymosodwr Wrecsam rwydo ei gôl ryngwladol gyntaf.
Cymru: Brown, Duffy (Ledley 46), Nyatanga, Evans, Ricketts, Simon Davies (Jones 70), Robinson (Crofts 80), Koumas (Craig Davies 85), Giggs (Fletcher 46), Bellamy, Earnshaw (Llewellyn 60).
Eilyddion: Morgan, Ward.
Goliau: Koumas 8, 14, Bellamy 77, Llewellyn 90.
Liechtenstein: Jehle, Telser, Hasler, Ritter, Michael Stocklasa, Roger Beck (Kieber 89), Burgmeier, Buechel, D'Elia (Rohrer 60), Ritzberger (D Frick 60), Mario Frick (Buchel 82).
Eilyddion: Steuble, Oehri.
Cerdyn melyn: Telser.
Torf: 8,752.
Dyfarnwr: Luc Wilmes (Lwcsembwrg).