|
O'r herwydd bydd ymosodwr Lerpwl yn gallu ymarfer â gweddill y garfan wrth iddynt baratoi i wynebu Cyprus yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher.
|
Cymru v Cyprus
Dyddiad: 11 Hydref
Cic gyntaf: 2000 BST
Lleoliad: Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd
Yn FYW ar BBC Radio Cymru a BBC Cymru'r Byd
|
Mae Ryan Giggs yn dal wedi'i anafu tra bod Carl Fletcher hefyd wedi dychwelyd i'w glwb, Crystal Palace, gan nad yw wedi gwella o'r anaf i'w ffêr.
Roedd John Toshack wedi gobeithio y byddai seren Manchester United yn gallu ymarfer â'r garfan yn ystod yr wythnos a chwarae rhyw ran yn erbyn Cyprus.
Ond mae'r gobeithion yna wedi eu chwalu: "Cefais air â Ryan ac mae e wedi bod yn ei wely am ddau ddiwrnod â thymheredd uchel. Ni fydd yn ymuno â ni," meddai Toshack.
A chafwyd cadarnhad na fydd ymosodwr West Bromwich Albion, John Hartson, yn ymuno â'r garfan chwaith.
Dywedodd y rheolwr ei fod wedi cysylltu â Hartson ddydd Sul, ond bod y ddau wedi cytuno nad yw'r ymosodwr wedi chwarae digon o gemau yn ddiweddar.
Ond mae lle i gredu nad yw gyrfa rhyngwladol Hartson ar ben gan fod Toshack yn awyddus i'w gynnwys yn y garfan yn y dyfodol.
Ond wfftiodd y rheolwr yr awgrym y dylai gysylltu ag unrhyw chwaraewyr arall sydd wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
"John yw'r unig un sydd wedi cysylltu â mi i ddweud ei fod eisiau dychwelyd i'r garfan. Rwyf wedi clywed sibrydion am Gary Speed ond nid wyf wedi clywed gan y chwaraewr," meddai wedi'r grasfa 1-5 yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn.
Roedd chwaraewr canol cae Everton, Simon Davies, hefyd o'r un farn â Tosahck.
"Rydym yn edrych tua'r dyfodol ac nid yw'r chwaraewyr yna am fod yma ymhen pum neu ddeng mlynedd," meddai wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.
"Nid ydym yn chwilio am atebion tymor byr, rydym yn edrych tuag at Ewro 2008 a Chwpan y Byd 2010 ac mae angen i'r chwaraewyr ifanc fagu profiad.
"Mae angen edrych ymlaen ac rydym yn wlad fechan ac mae angen rhoi profiad i gymaint o chwaraewyr â phosib.
"Yn amlwg nid oedd dydd Sadwrn yn ddelfrydol ond mae gêm arall gennym ddydd Mercher."
Bydd Cyprus llawn hyder wrth deithio i Gaerdydd wedi iddynt chwalu Iwerddon 5-2 yn Nicosia nos Sadwrn.
Dyma oedd canlyniad gorau Cyprus mewn gemau rhagbrofol ers iddynt ddechrau chwarae pêl-droed rhyngwladol ym 1960.
 |