"Mae gennym ychydig o ddyddiau i geisio codi'r ysbryd ar gyfer Cyprus, mae' rhaid i ni wneud hynny'n sydyn," meddai Bellamy, fydd yn mynd o flaen ei well ar gyhuddiad o ymosod ddydd Llun.
"Rydym ni, fel gwlad fechan, wedi ei chael yn anodd erioed i sicrhau dyfnder yn ein carfan, ond nid yw pob chwaraewr allan yna yn chwarae'n rheolaidd dros eu clybiau.
"Roedd hynny'n amlwg, mae'n anodd gofyn iddynt gymryd y cam i fyny i bêl-droed rhyngwladol."
 |