BBC HomeExplore the BBC

GWENER
11eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 07 Hydref 2006
Cymru 1-5 Slofacia

Cafodd Cymru hunllef yn Stadiwm y Mileniwm wrth i Slofacia chwalu gwyr John Toshack 5-1 a tharo ergyd i obeithion y Dreigiau yng ngemau rhagbrofol Ewro 2008.

Wedi gôl gynnar Dusan Svento, manteisiodd Marek Mintal ar gamgymeriad erchyll y golwr, Paul Jones, i ganfod y rhwyd o 35 llath.

Cafwyd llygedyn o obaith i Gymru wrth i Gareth Bale grymanu cic rydd hyfryd i gefn y rhwyd, ond tarodd Slofacia yn ôl yn syth â tharan o ergyd o 40 llath gan Mintal.

Wedi'r ergyd cododd Miroslav Karhan y bêl dros Jones ac i'r rhwyd a chwblhawyd y sgorio â gôl gan Robert Vittek.

Dioddefodd Cymru eu colled fwyaf gartref ers colli 7-1 yn erbyn Lloegr ym 1908, ac mae tasg enfawr yn wynebu Toshack cyn y gêm â Chyprus nos Fercher.

Cafodd Gymru ddechrau da wrth i Jason Koumas ganfod Bale â phas hyfryd o ganol cae ond methodd yr amddiffynnwr â chanfod Ernes yn y cwrt cosbi.

Aeth Slofacia ar y blaen wrth i ymosodwr FC Nurembwrg, Vittek, droi Lewin Nyatanga cyn taro ergyd ar draws wyneb y gôl a rhwydodd Svento heibio i Jones, oedd yn casglu ei 50fed cap.

Bu bron i Earnshaw ymateb yn syth ond llwyddodd Kamil Contofalsky i arbed ei ergyd yn gyfforddus.

Llwyddodd Bellamy, oedd yn arwain ei wlad am y tro cyntaf, i droi'r bêl i'r rhwyd wedi 30 munud ond fe'i gwrthodwyd am fod ymosodwr Lerpwl yn camsefyll.

Yna cafwyd camgymeriad erchyll arall gan Jones - oedd â llun draig a'r rhif 50 wedi torri i mewn i'w wallt - wrth iddo gicio'r bêl yn syth i lwybr Mintal a chododd yr ymosodwr y bêl i'r rhwyd wag.

Tarodd Cymru yn ôl â chic rydd hyfryd gan Bale wedi i Koumas gael ei lorio ar ochr y cwrt cosbi.

Ond chwalwyd gobeithion y Cymry o fewn munud wrth i Mintal fanteisio ar bêl lac yng nghanol cae i rwydo gôl wych o 40-llath.

Parhaodd hunllef Jones yn yr ail hanner wrth i Karhan grymanu ergyd i gefn y rhwyd o 30-llath.

Ac ildiodd golwr QPR bumed gôl wedi i Svento ddawnsio heibio Duffy i lawr yr asgell chwith cyn canfod Vittek i rwydo'r bumed.

Dyma oedd canlyniad gwaethaf Cymru ers i dîm Bobby Gould ildio 7 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Eindhoven ym 1996.


Cymru: Paul Jones, Duffy, Bale, Gabbidon, Nyatanga, Robinson, Edwards, Koumas, Simon Davies, Bellamy, Earnshaw.
EilyddionSubs: Price, Morgan, Ledley, Parry, Cotterill, Vaughan, Crofts.

Slofacia: Contofalsky, Kozak, Kratochvil, Martin Petras, Varga, Karhan, Mintal, Vittek, Peter Petras, Svento, Durica.
Eilyddion: Hajduch, Valachovic, Holosko, Hodur, Had, Krajcik, Sapara.

Dyfarnwr: Dick Van Egmond (Yr Iseldiroedd)

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy