Mae asgellwr Manchester United wedi serennu dros ei glwb a'i wlad yn ystod 2005 gyda Syr Alex Ferguson yn ei ddisgrifio fel "yr arweinydd perffaith".
ENILLWYR
1991 - Dean Saunders
1992 - Neville Southall
1993 - Mark Hughes
1994 - Mark Hughes
1995 - Neville Southall
1996 - Ryan Giggs
1997 - Mark Hughes
1998 - John Hartson
1999 - Paul Jones
2000 - John Robinson
2001 - John Hartson
2002 - Simon Davies
2003 - John Hartson
2004 - Rob Earnshaw
2005 - Danny Gabbidon
2006 - Ryan Giggs
|
Er ei dalent amlwg, unwaith yn unig mae capten Cymru wedi cipio'r wobr yn y gorffennol.
Cafodd ei enwebu'n chwaraewr y flwyddyn gan ohebwyr pêl-droed Cymru ym 1996 wedi iddo ennill y wobr ar gyfer chwaraewyr iau ym 1992 a 1994.
Lewin Nyatanga gafodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Iau'r Flwyddyn wedi blwyddyn lwyddiannus. Am gyfnod eleni, amddiffynnwr Derby County oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i ennill cap dros ei wlad.
Mae chwaraewr canol cae Southampton, Gareth Bale, bellach wedi torri'r record yma, ond perfformiadau Nyatanga dros Gymru sicrhaodd mai ef oedd yn cipio'r wobr.
Mark Jones gafodd y wobr ar gyfer Chwaraewr o Glwb Cymreig am ei berfformiadau gyda Wrecsam tymor diwethaf.
Rhwydodd y chwaraewr canol cae 15 gôl dros Y Dreigiau tymor diwethaf ac mae wedi ei gynnwys yng ngharfan llawn Toshack ar gyfer y gemau â Slofacia a Chyprus wythnos nesaf.
 |