BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 06 Hydref 2006
Tosh i gadw ffydd yn Davies

Mae disgwyl i reolwr Cymru, John Toshack, gadw ffydd â chwaraewr canol cae Everton, Simon Davies, ar gyfer gêm rhagbrofol Ewro 2008 yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd.


Dim ond 137 munud mae Davies wedi chwarae dros ei glwb tymor yma.

Ond mae disgwyl i'r chwaraewr 26-mlwydd-oed ffurfio partneriaeth yng nghanol cae gyda Carl Robinson, fydd yn chwarae mewn safle amddiffynol, a Jason Koumas, fydd yn cael rôl greadigol.

Mae hynny'n golygu na fydd lle i chwaraewr Caerdydd, Paul Parry a Joe Ledley, wrth i Toshack fynd â phatrwm 5-3-1-1.

Gyda Ryan Giggs wedii anafu, bydd Craig Bellamy yn cymryd rôl y capten ac yn chwarae yn y llinell flaen ynghyd â Rob Earnshaw.

Ac mae anafiadau i James Collins, Mark Delaney a Sam Ricketts yn golygu bod y tîm yn brin o brofiad yn yr amddiffyn.

Mae disgwyl i Gareth Bale a Lewin Nyatanga, sydd yn eu harddegau, i ffurfio partneriaeth ifanc ynghyd â Richard Duffy, Rob Edwards a Danny Gabbidon - sydd yn 27-mlwydd oed, yr hynnaf o'r pump.

Bydd y golwr, Paul Jones, sydd yn 40 ym mis Ebrill, yn casglu ei 50ed cap.

Bellamy, fydd capten Cymru ar gyfer y ddwy gêm yn absenoldeb Ryan Giggs er ei fod yn ymddangos yn y llys wythnos nesaf.

Mae Bellamy yn mynd o flaen ei well yn llys ynadon Caerdydd ddydd Mawrth ar gyhyddiad o ymosod ac mae disgwyl i'r achos barhau am dri diwrnod.

Bydd yr ymosodwr yn cymryd drosodd gan Ryan Giggs sydd yn colli'r gêm yn erbyn Slofacia oherwydd anaf i linyn ei âr.

Ac mae rheolwr Cymru, John Toshack, yn cyfaddef nad yw Giggs yn debygol o fod ar gael i herio Cyprus bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Roedd mwy o newyddion drwg wrth i amddiffynnwr West Ham, James Collins, orfod tynnu yn ôl o'r garfan ag anaf i gesail ei forddwyd.

Ni chwaraeodd dros ei glwb yn Reading dros y Sul wedi iddo ddioddef anaf yn ystod y golled yng Nghwpan Uefa yn erbyn Palermo nos Iau.

Mae'r amddiffynwyr, Mark Delaney (pen-glin) a Sam Ricketts (boch) eisoes allan o'r gemau oherwydd anafiadau, sy'n golygu bydd Cymru heb dri o'r pedwar amddiffynnwr ddechreuodd eu gêm agoriadol yn erbyn Y Weriniaeth Siec ym mis Medi.

Nid yw Giggs wedi chwarae ers anafu llinyn ei âr yn ystod gêm Manchester United â Celtic yng Nghynghrair y Pencampwyr ar 13 Medi.

"Mae gen i deimlad y bydd yn dechrau ymarfer rhyw 48 awr cyn y gêm â Chyprus," meddai Toshack wrth BBC Cymru.

"Byddai hynny'n golygu ei fod yn debygol o golli'r gêm, ond cawn weld."

Bydd yn cael sgan yn ystod yr wythnos a bydd hynny'n ffactor mawr wrth benderfynu a fydd ar gael i wynebu Cyprus yng Nghaerdydd.

Heb Giggs, bydd angen i Toshack benodi capten newydd ac fe all y golwr, Paul Jones, gael y fraint wrth iddo ennill ei 50fed cap dros ei wlad.

Mae Toshack wedi ychwanegu amddiffynnwr yr MK Dons, Craig Morgan, i'r garfan wedi i Robert Page ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Ac mae asgellwr Yeovil, Arron Davies, wedi ei alw i'r garfan yn dilyn y cyhoeddiad am Giggs.

Mae Toshack wedi penderfynu peidio galw ar John Hartson oherwydd amheuon ynghylch ei ffitrwydd a'i absenoldeb o gemau diweddar West Brom.

A bydd chwaraewr canol cae Crystal Palace, Carl Fletcher, yn aros â'i glwb am driniaeth ar anaf i'w ffêr gyda'r gobaith bydd y gallu ymuno â gweddill y garfan yn ystod yr wythnos.

Roedd ambell i beth positif i Toshack ddydd Sul wrth i'r golwr, Jason Brown, ddod oddi ar y fainc ac arbed cic o'r smotyn ystod buddugoliaeth Blackburn dros Wigan.

A sgoriodd Robert Earnshaw ei seithfed gôl o'r tymor er i Norwich golli 4-1 gartref yn erbyn Burnley.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy