|
Cafodd Page ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Slofacia a Cyprus yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2008 fis nesaf.
Ond bu'r amddiffynnwr 32 oed yn trafod gyda rheolwr Cymru John Toshack ddydd Mercher ac fe eglurodd iddo ei resymau dros ymddeol o'r tîm cenedlaethol.
"Yr wyf wedi ystyried y peth ac yn teimlo na allwn fod i ffwrdd o'r teulu am 10 diwrnod," meddai Page, enillodd 41 cap dros ei wlad.
"Pe byddwn yn gwybod fy mod am chwarae efallai y byddwn yn parhau oherwydd nid oes gwell anrhydedd na chael cynrychioli eich gwlad.
"Ond gan fy mod â theulu ifanc ac i ffwrdd am 10 diwrnod, nid yn unig y mae'n galed arnoch chi yn bersonol ond hefyd eich gwraig a'ch plant.
"Nid oes unrhyw aelod o'r garfan â gwarantiad eu bod am chwarae, ond mae hwn yn benderfyniad y bûm yn ystyried dros y misoedd diwethaf.
"Pan dderbyniais yr alwad ffôn ddydd Gwener ddiwethaf roeddwn yn falch fy mod yn chwarae yn dda i fy nghlwb a chael dychwelyd," meddai Page enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Twrci ym 1996.
Enillodd Page ei gap cyntaf yn erbyn Twrci ym 1996, a daeth ei ymddangosiad olaf yng Nghyprus bron flwyddyn yn ôl, pan gollodd Cymru o 1-0.
Fe oedd capten Cymru yng ngêm gyntaf Toshack wrth y llyw yn erbyn Hwngari ddwy flynedd yn ôl.
Pwysleisiodd nad oedd ei benderfyniad i ymddeol yn adlewyrchiad o arddull Toshack fel rheolwr
"Nid oes unrhyw ddrwgdeimlad o gwbl," meddai. "Dwi'n meddwl yn y bôn ei fod yn deall fy mhenderfyniad.
"Yr wyf wedi cael blynyddoedd gwych yn chwarae dros Gymru ac nid oes gwell anrhydedd - yr wyf eisiau pwysleisio hynny
"Bydd yr atgofion sydd gennyf yn parhau hyd weddill fy mywyd ac yn rhywbeth y gallaf rannu gyda fy mhlant wrth iddynt dyfu."
 |