Mae grŵp y G14 o glybiau yn cefnogi achos tîm Charleroi o Wlad Belg yn eu hachos i gael iawndal am chwaraewr gafodd ei anafu mewn gêm rhyngwladol.
Ond mae ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, David Collins, yn rhybuddio gall penderfyniad o'r fath weld rhai o'r gwledydd llai, fel Cymru, yn mynd yn fethdal.
Bu chwaraewr Charleroi, Abdelmajid Oulmers, allan am wyth mis wedi anafu tra'n chwarae dros Morocco yn erbyn Burkina Faso ym mis Tachwedd 2004.
Mae'r clwb o Wlad Belg yn ceisio dadlau bod colli Oulmers wedi bod yn ergyd i'w gobeithion o gipio'r gynghrair tymor diwethaf.
Mae grŵp y G14 yn cefnogi'r achos i sicrhau bod rhaid i'r cymdeithasau dalu am ddefnyddio chwaraewyr ar gyfer gemau rhyngwladol.
"Pe bawn ni'n gorfod talu unrhywbeth yn debyg i gyflofgau'r chwaraewyr ... ni fyddwn yn gallu chwarae gemau rhyngwladol, byddem yn achosi ein cymdeithas i fynd yn fethdal," meddai Collins, wrth raglen The Back Page ar BBC Radio Wales.
"Byddai pêl-droed rhyngwladol, fel yr ydym ni yn ei adnabod, yn diflannu.
"Byddwn yn mynd mor bell ag awgrymu byddai cymdeithasau fel Lloegr a'r Almaen, dau o'r cymdeithasau mwyaf, yn ei chael yn anodd i barhau."
Gwrthodwyd cais gwreiddiol y G14 am iawndal gan Lys Masnachol Gwlad Belg, ond mae'r achos wedi ei gyrru at Lys Cyfiawnder Ewrop yn Lwcsembwrg.
Mae 18 o glybiau mwyaf y byd pêl-droed yn aelodau o'r G14, yn eu mysg mae Arsenal, Lerpwl a Manchester United yn ogystal â Real Madrid, AC Milan a Bayern Munich.
"Roedd yn farn unfrydol gan y 52 o aelodau (o Uefa) byddai'n fygythiad i ddyfodol pêl-droed rhyngwladol petai'r G14 yn ennill yr achos yma," ychwanegodd Collins.
"Nid ydym yn gallu meddwl sut byddai modd codi'r arian fyddai angen i dalu'r chwaraewyr."
- Roedd David Collins yn siarad ar raglen The Back Page ar Radio Wales sydd yn cael ei darlledu pob bore Sadwrn 0830-0900 BST