BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 21 Mai 2006
Gwlad y Basg 0-1 Cymru

Sgoriodd Ryan Giggs unig gôl y gêm yn yr ail hanner sicrhaodd fuddugoliaeth i Gymru dros Wlad y Basg yn Stadiwm San Mames, Bilbao.

Cymru yn dathlu gôl Ryan Giggs

Yn chwarae ei gêm gyfeillgar oddi cartref dros Gymru, sgoriodd Giggs gyda chwarter awr yn weddill wedi rhediad o ganol y cae.

Yr Euskari oedd wedi rheoli'r ganol cae ac wedi mwynhau'r mwyafrif o feddiant, ond wedi methu'r min o flaen y gôl.

Yn ei ail gêm i Gymru, gwnaeth Lewin Nyatanga argraff yn yr amddiffyn ac roedd Craig Bellamy hefyd yn disgleirio.

Bu bron i'r tîm cartref fynd ar y blaen wedi ond pum munud, pan lwyddodd capten y Basgwyr Julen Guerrero fynd y tu ôl i golwr Cymru, Paul Jones ac ergydio.

Ond roedd Carl Robinson wedi gweld y perygl ac fe lwyddodd i daflu ei hun at y bêl a rhwystro gôl ar y llinell.

Parhaodd yr Euskari i fygwth ac aethant yn agos unwaith yn rhagor wedi 19 munud pan groesodd Edu Alonso o'r dde, ond i Joseba Etxeberria fethu gyda'i beniad.

Gydag anafiadau ac absenoldebau yn cyfyngu opsiynau John Toshack, dechreuodd Simon Davies and Joe Ledley y gêm fel asgellwyr cefn Cymru.

Ond bu'r ddau dan bwysau cynyddol gan y Basgwyr, ac ar brydiau roedd chwaraewyr canol cae Cymru dan bwysau.

Daeth Cymru fwy mwy i'r gêm wedi hynny gyda Inaki Lafuente ar arbed cynnig ergyd isel ar draws gôl gan Craig Bellamy.

Roedd amddiffynnwr Bolton, Ivan Campo yn ffodus i beidio derbyn mwy na cherdyn melyn pan dynnodd Bellamy yn ôl wrth i ymosodwr Blackburn geisio torri'n rhydd.

Aeth peniad Rob Earnshaw dros y trawst yn dilyn cic gornel a bu'n rhaid i Lafuente arbed dwy ergyd gan ymosodwr Norwich cyn yr egwyl.

Yn fuan yn yr ail hanner gwnaeth Earnshaw yn dda i reoli'r bêl yn dilyn croesiad Bellamy, gan greu cyfle gwych i Ryan Giggs, methodd gyfle euraidd.

Dyna oedd cyfraniad olaf Earnshaw, gydag Andrew Crofts o Gillingham yn dod ymlaen yn ei le a Giggs yn ymuno Bellamy i arwain yr ymosod.

Ergydiodd Joseba Etxeberria a Patxi Punal o bell i'r Basgwyr, na drafferthodd Paul Jones.

Wedi 75 munud gwnaeth Giggs yn iawn am fethu cyfle euraidd ynghynt.

Derbyniodd Giggs y bêl yn hanner ei hun gan ddechrau ar rediad gwych.

Gwnaeth Bellamy a Crofts yn dda i dynnu amddiffynnwr i mewn, gan alluogi Giggs i ergydio gyda blaen ei droed gan guro'r eilydd Asier Riesgo.

Daeth Xabi Prieto yn agos i unioni'r sgôr, ond iddo ergydio dros y trawst.

Honno oedd cyfle olaf y tîm cartref, ac fe allai David Cotterrill wedi ennill cic o'r smotyn hwyr i Gymru pan gafodd ei lorio yn y cwrt cosbi.


Gwlad y Basg: Inaki Lafuente (Bilbao), Edu Alonso (Alaves), Aitor Lopez Rekarte (Sociedad), Ivan Campo (Bolton), Mikel Labaka (Sociedad), Patxi Punal (Osasuna), Xabi Prieto (Sociedad), Julen Guerrero (Bilbao), Joseba Etxeberria (Bilbao), Mikel Alonso (Sociedad), Igor Gabilondo (Sociedad).
Eilyddion: Asier Riesgo (Sociedad), Sarriegi, Munoz, Javi Garrido (Sociedad), Fernando Llorente (Bilbao).

Cymru: P Jones (QPR), Ledley (Caerdydd), Nyatanga (Derby), Gabbidon (West Ham), J Collins (West Ham), Robinson (Norwich), Fletcher (West Ham), Bellamy (Blackburn), Earnshaw (Norwich), S Davies (Everton), Giggs (Manchester United).
Eilyddion: Partridge (Bristol City), Croft (Gillingham), Vaughan (Crewe), Cotterill (Bristol City), Bale (Southampton), C Davies (Verona), Price (Ipswich).

Dyfarnwr: Eduardo Iturralde Gonzalez (Sbaen).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy