BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 09 Mai 2006
Newid dyddiad gêm Cymru yn Bilbao

Mae dyddiad gêm gyfeillgar Cymru â Gwlad y Basg wedi newid yn dilyn penderfyniad Fifa i ganiatau Cymdeithas Bêl-droed Sbaen i ymestyn eu tymor.


Roedd corff llywodraethol y byd pêl-droed wedi gwrthod cais gwreiddiol y Sbaenwyr i ymestyn eu tymor hyd at 20 Mai - yr un diwrnod â gêm Cymru yn Bilbao.

Ond wedi clybiau La Liga gwyno, mae Fifa wedi rhoi sêl bendith ar drefn newydd o gemau sydd yn gweld Athletic Bilbao, yn croesawu Barcelona i Estradio San Mames ar 20 Mai.

O'r herwydd mae gêm Cymru â Gwlad y Basg, sydd hefyd i'w chwarae yn Estadio San Mames, wedi ei ohirio am 24 awr hyd at nos Sul 21 Mai.

Mae dros 350 o gefnogwyr Cymru eisoes wedi gwneud trefniadau a dywedodd yr FAW eu bod wedi cael ar ddeall bod dros hanner y cefnogwyr i fod i deithio adref ddydd Sul.

Bydd hyn yn golygu i'r cefnogwyr newid eu trefniadau neu colli'r gêm, sydd wedi gweld pob un o'r 40,000 tocyn yn y stadiwm wedi ei werthu.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy