|
Nid yw'r chwaraewr 27-mlwydd-oed wedi chwarae unrhyw ran yng ngharfan Cymru ers i John Toshack gymryd yr awenau gan Mark Hughes ym mis Tachwedd 2004.
Mae nifer yn galw am i'r chwaraewr canol cae gael ei gynnwys ar gyfer gemau Cymru ym mis Mai, ond dywedodd: "Bydd rhaid i ni aros a gweld. John Toshack sy'n penderfynu. Daeth ymddangosiad diwethaf Oster dros Gymru mewn gêm ragbrofol yn erbyn Gogledd Iwerddon ym mis Medi 2004. Ond ers i Tosahck gymryd y swydd dau fis yn ddiweddarach, nid yw'r asgellwr dde wedi bod yn agos i garfan Cymru. Ac er bydd Cymru'n herio XI Gwlad y Basg (20 Mai) a Trinidad a Tobago (27 Mai), nid oes unrhyw awgrymiad bod Oster yn rhan o gynlluniau Toshack. Dywedodd Oster byddai wrth ei fodd ychwanegu at yr 13 cap mae eisoes wedi ennill, ond mae'n cyfaddef byddai'n anodd iawn derbyn gwahoddiad i ymuno â'r garfan ar gyfer gemau mis Mai. "Pan rydych yn edrych ar y chwaraewyr sydd yn y garfan, rwy'n credu fy mod ddigon da i fod yna, ond nid yw'n benderfyniad i mi," ychwanegodd. "Nid wyf yn un i daflu'r teganau allan o'r pram, ond nid wyf eisiau bod yn rhan o daith ddiwedd tymor pan fo pawb arall wedi tynnu yn ôl. "Nid wyf wedi bod yn rhan o'r gemau rhagbrofol ers sawl mis, felly ni all ddisgwyl i mi ildio fy amser sbâr yn ystod yr haf pan rwyf wedi trefnu gwyliau."
 |