"Rwy'n credu ei fod yn syniad da iawn," meddai Johansson. "Mae ganddynt yr un diwylliant, yn deall ei gilydd a byddai teithio rhwng y gwledydd yn hawdd. Fell pam ddim?"
Mae Johansson hefyd yn credu bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal un o rowndiau terfynol Uefa cyn bo hir.
"Rwy'n siŵr bydd yn cael ei ystyried ar gyfer un o'n rowndiau terfynol," meddai Johansson wrth Adran Chwaraeon BBC.
Llynedd, penderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru anghofio cais i gynnal rownd derfynol Cwpan Uefa neu Cynghrair y Pencampwyr oherwydd problemau cyflawni ymrwymiadau cytundebau Uefa.
Daethant i'r casgliad nad oedd modd codi lleoliadau fel pentref lletygarwch oherwydd bod y stadiwm mor agos i ganol y dref.
"Roedd hynny'n siom mawr," meddai ysgrifennydd cyffredinol yr FAW, David Collins, wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.
"Ond nid oes llawer i stadiwm yn Ewrop â'r gallu i greu'r fath gyfleuster felly mae'n bosib bydd Uefa yn llacio eu hymrwymiadau yn y dyfodol, yn enwedig ar gyfer rownd derfynol Cwpan Uefa.
"Petai hynny'n digwydd byddwn yn ystyried cais, yn enwedig gan fod Cwpan FA, y Tarian Gymunedol a'r gemau ail gyfle yn dychwelyd i Wembley."
Methodd Yr Alban ac Iwerddon â'u cais i gynnal Ewro 2008, gydag Awstria a'r Swistir yn fuddugol.
Ac mae cynigion ar y cyd yn fwy poblogaidd a llwyddiannus, gyda chais gan Croatia a Hwngari yn ogystal â Gwlad Pwyl ac Ukraine ar y rhestr fer ar gyfer pencampwriaeth 2016.
Methodd cynnig gan bedwar o wledydd Sgandinafia i ennill y frwydr i gynnal Ewro 2008, ond dywedodd Johansson na fyddai Uefa yn gwrthwynebu cynnig gan dair gwlad.
"Ceisiodd y gwledydd Nordig â phedair gwlad, ond roedd hynny'n ormod. Tro nesaf byddent yn ceisio â thair (gwlad)," meddai Johansson.
"Nid ydym am fynd i'r un llefydd trwy'r amser felly mae cyfleon da yn codi. Mae hynny'n rhoi gobaith i bobl, a hefyd cyfle i weithio mewn partneriaeth â gwledydd eraill."
Y rhwystr mwyaf i Gymru i fod yn rhan o unrhyw gais fydd y diffyg adnoddau.
Mae'n rhaid i bob cais gael wyth stadiwm ag o leiaf 30,000 sedd. Ar hyn o bryd, Stadiwm y Mileniwm yw'r unig faes yng Nghymru sydd yn cyrraedd y safon.
Byddai hynny'n newid gyda stadiwm newydd Caerdydd, ond dywedodd Collins byddai'n rhaid i'r FAW ystyried datblygu Stadiwm Liberty, Abertawe neu'r Cae ras yn Wrecsam.
A datgelodd Collins byddai'n well gan yr FAW wneud cais ar y cyd â'r Alban yn unig.
"Byddem yn sicr yn ystyried cynnig," meddai Collins. "Roeddem wedi ystyried cais ynghyd â'r Alban ac Iwerddon, ond yn anffodus penderfynodd y ddau fynd ar ben eu hunain.
"Ond rydym yn credu ei fod y gwneud synnwyr i gynnal y bencampwriaeth ar ynys Prydain.
"Felly petawn yn gallu cael pedwar stadiwm o 30,000 o seddi byddwn, ynghyd â'r Alban, yn gallu sicrhau'r wyth stadiwm sydd ei angen i wneud cais."