Roedd Nyatanga, 17, yn rhan allweddol o amddiffyn Cymru yn ystod y gêm gyfeillgar ddi-sgôr â Paraguay nos Fercher.
"Roedd yn noson dda iawn i mi," meddai amddiffynnwr Derby, lwyddodd i dorri ei enw yn y llyfrau hanes fel chwaraewr ieuengaf Cymru.
"Ond dyma'r cam cyntaf. Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed - rwy'n gobeithio bydd perfformiadau eraill fel rhain."
Cymrodd Nyatanga ei le yng nghanol amddiffyn Cymru ochr yn ochr â Danny Gabbidon a James Collins.
A dywedodd mai cadw ei le yn y tîm rhyngwladol oedd ei brif her er iddo greu hanes.
"Nid yw chwarae fy gêm gyntaf yn gwneud pethau'n haws," meddai Nyatanga, sydd yn gymwys i Gymru gan fod ei fam yn dod o'r Drenewydd.
"Rwyf eisiau gwella fel chwaraewr, felly byddaf yn rhoi fy hun dan bwysau."
A roedd capten Cymru, Ryan Giggs, oedd yn berchen â record chwaraewr ieuengaf Cymru ei hun ar un adeg, yn credu fod Nyatanga yn debygol o fod yn rha allweddol o garfan Cymru yn y dyfodol.
"Roedd yn berfformiad campus; roedd ei basio'n dda, mae wedi bod yn dda wrth ymarfer," meddai Giggs.
"Os yw'n parhau i wneud hynny bydd ganddo le yn nhîm Cymru am flynyddoedd i ddod."
 |