|
"Mae nhw yn ddau o'n sêr ac fe ddyle nhw fod yn chwarae dros Gymru," meddai Hartson.
"Mae'n iawn rhoi cyfle i'r chwaraewyr ifanc ond tydw i ddim yn teimlo fod gennym y safon angenrheidiol o fewn y garfan.
"Mae pethau wedi bod yn anodd i Toshack a dwi yn gobeithio y bydd pethau yn gwella, ond dwi ddim yn siŵr o hynny.
Nid yw Savage a Thatcher wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru ers ffraeo'n gyhoeddus gyda Toshack.
Ac yn ddiweddar cyhoeddodd Hartson ei fod yn ymddeol o'r tîm cenedlaethol ar ôl ennill 51 cap a sgorio 14 gêl dros ei wlad.
"Mae chwarae dros Gymru wedi golygu gymaint i mi, yn fwy na chynrychioli Arsenal neu Celtic, yn fwy na ennill rowndiau terfynol a chwpanau.
"Ond bu'r gemau diwethaf yn rhai caled i mi, a dwi'n gwybod na wnes i ddisgleirio dan Toshack.
"Gallwn ond fod yn onest gyda fy hun a'r cyhoedd, nid oedd fy mhen yn iawn."
Ychwanegodd Hartson fod ymddeoliad nifer o'r chwaraewyr profiadol megis Mark Crossley, Mark Pembridge, Andy Melville, Gary Speed a Savage wedi rhan o'i benderfyniad i roi'r gorau i bêl droed rhyngwladol.
Er hynny roedd yn gefnogol o Toshack fel rheolwr Cymru, ac fe gysylltodd gydag ef i'w nodi am ei fwriad i ymddeol.
"Roedd yn deall yn iawn ac fe ddywedodd y byddai ar gael pe byddwn angen trafod un rhywbeth gydag ef. Mae'n sylweddoli fy mod yn ei barchu."
 |