|
Os fydd Nyatanga, amddiffynnwr Derby, yn wynebu Paraguay fe fydd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli Cymru.
Yn ogystal mae Mark Jones, David Cotterill a Joe Ledley hefyd wedi eu cynnwys yng ngharfan John Toshack.
Ac wedi ei alw i'r garfan am y tro cyntaf mae golwr Leyton Orient, Glynn Garner.
Roedd Garner yn un o sêr Orient yn ystod eu rhediad diweddar yng Nghwpan yr FA.
Nid oes lle i chwaraewr canol cae Abertawe, Owain Tudor Jones nag ymosodwr Verona, Craig Davies oherwydd anaf.
"Mae Lewin wedi ennill ei le yn nhîm Derby y tymor hwn," meddai John Toshack.
"Rwyf wedi ei weld ambell waith ac yn sicr mae'n un ar gyfer y dyfodol.
"Mae hi wedi bod yn anodd iddo yn ddiweddar gyda newid rheolwr yn Derby ac yntau yn cael ei adael allan, ond mae'n rhaid i ni roi cyfle i'r chwaraewyr ifanc.
"Rydym yn gwybod nad yw'r chwaraewyr hyn yn barod, ond mae'n rhaid i ni eu cynnwys yn y garfan yn awr er mwyn sicrhau y byddent yn barod ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2008.
"Gwnaeth Garner yn dda yn rhediad Orient yn y gwpan. Arbedodd gic o'r smotyn yn erbyn Fulham ac roedd yn wych yn erbyn Charlton."
Carfan Cymru i wynebu Paraguay ar Mawrth 1, yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd:
P Jones (QPR), Garner (Leyton Orient), Price (Ipswich), D Collins (Sunderland), J
Collins (West Ham), Delaney (Aston Villa), Edwards (Wolves), Gabbidon (West
Ham), Nyatanga (Derby), Page (Coventry), Partridge (MK Dons), Ricketts
(Abertawe), Crofts (Gillingham), Davies (Everton), Fletcher (West Ham), M Jones
(Wrecsam), Koumas (Caerdydd), Ledley (Caerdydd), Robinson (Norwich), Vaughan
(Crewe), Bellamy (Blackburn), Cotterill (Bristol City), Earnshaw (Norwich),Giggs (Man Utd).
 |