BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 12 Hydref 2005
Cymru 2-0 Azerbaijan

Daeth gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru i ben â buddugoliaeth wrth i Ryan Giggs ysbrydoli ei wlad â dwy gôl yn erbyn Azerbaijan yn Stadiwm y Mileniwm.

Tarodd y capten â chic rhydd wych wedi tri munud yn unig o'r gêm a bachodd ail gôl yn ystod yr ail hanner.

Ac fe allai asgellwr Manchester United wedi rhwydo hat-trick ond tarodd ergyd rymus yn erbyn y postyn.

Fe ddylai Emin Imamaliyev fod wedi dod â'r Azeri yn gyfartal cyn yr egwyl ond arbedodd Paul Jones ei ergyd yn wych.

Ac yn yr ail hanner llwyddodd Giggs i ddawnsio heibio pedwar amddiffynnwr, cyn crymanu ergyd heibio'r golwr am ei 11eg gôl rhyngwladol.

Mae'r fuddugoliaeth yng Nghaerdydd, ar gefn y fuddugoliaeth 3-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Belfast, yn sicrhau buddugoliaethau cefn wrth gefn i Gymru am y tro cyntaf ers 1998.

Ac mae'n golygu fod Cymru'n gorffen y grŵp yn y pedwerydd safle.

Ac mae'r modd gorffenwyd y grŵp yn argoeli'n dda ar gyfer y dasg enfawr o geisio cyrraedd Pencampwriaeth Ewro 2008.


Cymru: Jones, Duffy, J Collins, Gabbidon, D Collins (Ricketts, 54), Davies, Fletcher (Crofts, 69), Robinson, Vaughan, Giggs (Cotterill, 73), Hartson.
Eilyddion: Earnshaw, Williams, Edwards, Margetson.

Azerbaijan: Kramarenko, Mahir Shukurov (Poladov, 69), Agayev, Sadygov, Amirbekov (Bakhshiev, 80), Kerimov, Guliyev, Muzika, Ismaylov, Imamaliyev, Tagizade.
Eilyddion: Nabiyev, Akhmedov, Gurbanov, Hasanzade, Aliyev.

Dyfarnwr: Martin Hansson (Sweden).

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy