BBC HomeExplore the BBC

IAU
3ydd Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 06 Tachwedd 2009

Giggsy, Syr Bobby a fi!

Dylan Ebenezer gyda Syr Bobby Charlton

Gan Dylan Ebenezer


Wel, dyna beth oedd wythnos. Dwi ddim yn un i frolio ond mae rhaid i mi sôn am y ddau berson wnes i gyfweld wythnos yma.

Dim un - ond dau eicon yn y byd pêl-droed.

Ryan Giggs oedd y cyfweliad cyntaf - braf dweud ei fod mewn hwyliau da ac yn mwynhau bywyd. Yn ogystal â thrafod ei berfformiadau anhygoel i Manchester Utd roedd rhaid sôn am Gymru wrth gwrs.

Er ei fod ddim yn difaru ymddeol o'r gêm ryngwladol, roedd yn parhau i gadw golwg barcud ar y tîm - ac yn gefnogwr enfawr o'r tîm dan21.

Mi wnaeth hefyd drafod y rheol newydd sy'n caniatáu i rywun sydd wedi derbyn addysg am bum mlynedd mewn gwlad chwarae i'r wlad honno.

Tase'r rheol yna yn bodoli pan oedd Giggs yn ifanc mi fuasai wedi bod yn gymwys i Loegr - cofiwch mae llawer tu draw i Glawdd Offa yn credu ei fod yn gymwys ta beth am ryw reswm a ddim yn deall pam ei fod wedi dewis chwarae i Gymru!

Byddai'r rheol ddim wedi gwneud unrhyw wahaniaeth yn ôl Giggs - a dywedodd byddai ei deulu ddim wedi gadael iddo ddewis Lloegr ta beth.

Ar ôl cwrdd ag un seren daeth galwad i ddweud bod 'na bosibilrwydd cyfweld ag un arall o arwyr Manchester Utd - Syr Bobby Charlton.

I lawer sy'n dilyn y bêl gron, doedd y gêm ddim yn bodoli cyn dyfodiad Uwch Gynghrair Lloegr - ond mae angen cofio am y ganrif a mwy cyn hynny.

Mae angen cofio hefyd am gyfraniad Charlton i'r gêm. Roedd yn un o'r Busby Babes - y tîm gwefreiddiol dan arweiniad Syr Matt Busby oedd ar fin rheoli pêl droed yn Ewrop cyn y ddamwain awyren erchyll ym Munich ym 1958 pan fu farw wyth chwaraewr.

Deng mlynedd yn ddiweddarach cododd Charlton Gwpan Ewrop ar ôl ysbrydoli Man Utd yn y rownd derfynol yn erbyn Benfica, a chyn hynny wrth gwrs roedd wedi ennill Cwpan y Byd gyda Lloegr.

Ryan Giggs oedd pwnc y cyfweliad ac roedd gwrando arno yn canmol y Cymro fel clywed tad yn canmol ei fab.

Mae Syr Bobby yn ystyried Giggs fel un o'r goreuon erioed ac yn ei gymharu â rhai o'u hoff chwaraewyr sef Pele a Tom Finney. Ond y peth gorau y gallai ddweud am Giggs oedd ei fod cystal â John Charles - ac i Charlton roedd hynny yn dweud y cyfan.

Mae 'na lawer o bethau sydd yn cysylltu'r ddau chwaraewr yma - ond y peth mwyaf arwyddocaol oedd bod y ddau yn bobol gwbwl ddiymhongar a chyfeillgar.

Mewn oes pan mae chwaraewyr pêl-droed yn hawlio'r penawdau am bopeth heblaw am ei sgiliau ar y cae, roedd hi'n bleser cwrdd â'r ddau arwr yma - dau ŵr sy'n esiampl berffaith i unrhyw chwaraewr a chefnogwr ifanc.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy