BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 23 Mai 2007
Hanes Cwpan Pencampwyr Ewrop
Barcelona'n codi tlws Cynghrair y PencampwyrDyddiau cynnar

Golygydd y cylchgrawn chwaraeon enwog L'Équipe, gafodd y syniad o greu twrnament i bencampwyr pêl-droed gwledydd Ewrop.

Ym 1955, gwireddwyd breuddwyd Gabriel Hanot wrth i 16 o glybiau gystadlu yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Gwrthododd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a chaniatáu i bencampwyr Lloegr, Chelsea, gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac er mai Aberdeen oedd pencampwyr yr Alban, Hibernian gafodd y gwahoddiad gan Uefa.

Llwyddodd y tîm o Gaeredin i gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn Reims o Ffrainc.

Ym 1956 penderfynodd rheolwr Manchester United, Syr Matt Busby, anwybyddu amheuon a phrotestiadau'r Gymdeithas Bêl-droed, a mynnu bod ei dîm yn cael cystadlu.

Llwyddodd United i drechu Anderlecht, Borussia Dortmund ac Athletic Bilbao i gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Real Madrid.

Real yn rheoli

Llwyddodd Real Madrid gyda'u sêr byd enwog fel Ferenc Puskas ac Alfredo Di Stefano i godi'r tlws chwe gwaith yn ystod y 10 mlynedd gyntaf.

Ac mae un fuddugoliaeth yn cael ei hystyried fel y perfformiad gorau gan unrhyw glwb yn y gystadleuaeth wrth iddyn nhw drechu Eintracht Frankfurt 7-3 yn rownd derfynol 1960.

Cafodd pencampwyr Gorllewin yr Almaen eu chwalu o flaen torf o 135,000 ym Mharc Hampden, Glasgow.

A'r Los Merengues sy'n parhau i fod y clwb mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth gyda naw buddugoliaeth.

Y Cymry'n cyrraedd

Ym 1975, Terry Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop wrth iddo gamu i'r maes i gynrychioli Leeds United yn erbyn Bayern Munich.

Colli 2-0 oedd hanes tîm Don Revie ac felly Joey Jones sydd â'r fraint o fod y Cymro cyntaf i ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop pan oedd yn aelod o dîm Lerpwl drechodd Borussia Monchengladbach yn Rhufain ym 1977.

Casglodd Ian Rush medal enillwyr fel aelod o dîm Lerpwl drechodd Roma ar giciau o'r smotyn yn rownd derfynol 1984 cyn i Ryan Giggs ymuno â'r clwb dethol o Gymry am ei ran yn llwyddiant Manchester United ym 1999.

Clybiau Cymru'n cael cystadlu

Doedd 'na ddim cynrychiolaeth gan glwb o Gymru yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop am bron i 40 mlynedd, a hynny gan nad oedd gan Gymru ei chynghrair ei hun.

Ond newidiodd hynny ym 1992 wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru sefydlu Cynghrair Cymru a'r pencampwyr cyntaf, Cwmbran, gafodd y fraint o fod y clwb cyntaf i gynrychioli Cymru.

Daeth Cwmbran allan o'r het i wynebu pencampwyr Iwerddon, Cork City gyda'r cymal cyntaf i'w chwarae yng Nghwmbran.

Torrodd Simon King ei enw yn y llyfrau hanes wrth iddo rwydo'r gôl gyntaf erioed i glwb Cymreig yn y gystadleuaeth â chic o'r smotyn.

Rhwydodd Francis Ford ddwy gôl arall cyn yr egwyl ond bu rhaid i'r Crows frwydro'n galed i sicrhau'r fuddugoliaeth wedi i'r Gwyddelod rwydo ddwywaith yn yr ail hanner.

Llwyddodd Cwmbran i fachu gôl gynnar yn yr ail gymal yn Cork i fynd 4-2 ar y blaen dros y ddau gymal ac roedd pethau'n edrych yn dda iawn i bencampwyr Cymru.

Ond cafodd y tîm cartref lygedyn o obaith wrth iddyn nhw rwydo gyda chwarter awr yn weddill.

Torrwyd calonnau'r Cymry wrth i Johnny Glynn rwydo ail gôl i Cork gyda phum munud yn weddill a sicrhau mai'r Gwyddelod fyddai'n camu ymlaen i'r ail rownd diolch i'r rheol goliau oddi cartref.

Ym 1994 cafwyd ad-drefniad o Gwpan Pencampwyr Ewrop a phenderfynodd Uefa na fyddai gwledydd llai - fel Cymru - yn cael cystadlu yn y gystadleuaeth ac o'r herwydd bu rhaid i Fangor chwarae yng Nghwpan Uefa.

Roedd yr un peth yn wir i Fangor unwaith eto ym 1995 ac i'r Barri, cynrychiolwyr Cymru ym 1996, ond erbyn 1997 cafodd pencampwyr Cymru eu lle haeddiannol yn ôl yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Clybiau Cymru yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop
1993/94
Rownd ragbrofol
Cwmbran Town 3-2 Cork City (IRE)
Cork City (IRE) 2-1 Cwmbran Town

1997/98
Rownd ragbrofol
Dynamo Kiev (UKR) 2-0 Y Barri
Y Barri 0-4 Dynamo Kiev (UKR)

1998/99
Rownd ragbrofol
Dynamo Kiev (UKR) 8-0 Y Barri
Y Barri 1-2 Dynamo Kiev (UKR)

1999/00
Rownd ragbrofol
Y Barri 0-0 Valletta (MAL)
Valletta (MAL) 3-2 Y Barri

2000/01
Rownd ragbrofol
TNS 2-2 FC Levadia Maardu (EST)
Levadia Maardu (EST) 4-0 TNS

2001/02
Rownd ragbrofol
Y Barri 2-0 FC Shamkir (AZE)
FC Shamkir (AZE) 0-1 Y Barri

Ail rownd ragbrofol
FC Porto (POR) 8-0 Y Barri
Y Barri 3-1 FC Porto (POR)

2002/03
Rownd ragbrofol
Skonto Riga (LAT) 5-0 Y Barri
Y Barri 0-1 Skonto Riga (LAT)

2003/04
Rownd ragbrofol
FK Vardar (MAC) 3-0 Y Barri
Y Barri 2-1 FK Vardar (MAC)

2004/05
Rownd ragbrofol
Skonto Riga (LAT) 4-0 Y Rhyl
Y Rhyl 1-3 Skonto Riga (LAT)

2005/06
Rownd ragbrofol
Lerpwl 3-0 TNS
TNS 0-3 Lerpwl

2006/07
Rownd ragbrofol
MyPa-47 (FIN) 1-0 TNS
TNS 0-1 MyPa-47 (FIN)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy