BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 19 Mawrtth 2011

Bale yn arwyddo cytundeb newydd gyda Spurs

Mae'r Cymro Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd bedair blynedd a hanner gyda Tottenham fydd yn ei weld yn aros yn White Hart Lane tan 2015.

Gareth Bale
Mae Bale wedi serennu i Spurs y tymor hwn, yn enwedig yn ymgyrch y clwb yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Dywedodd rheolwr Spurs Harry Redknapp ei fod yn falch iawn bod Bale wedi ymrwymo i'r clwb yn enwedig gan fod rhai o fawrion Ewrop yn ei lygadu.

"Mae'n chwaraewr gwych a'r math 'da ni angen cadw yn Spurs," meddai Redknapp.

"Mae Gareth bellach yn un o'r chwaraewyr asgell chwith gorau yn y byd. Mae'n dalent anhygoel fydd ond yn gwella."

Fe ymunodd Bale, sydd wedi ennill 27 o gapiau dros Gymru, gyda Spurs o Southampton am £5m yn 3007.

"'Dwi'n mwynhau fy mhêl-droed yn Tottenham," meddai'r chwaraewr 21 oed.

"'Dwi eisiau i ni barhau i symud ymlaen a gobeithio y gallem gyflawni pethau mawr.

"'Da ni wedi profi yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor hen ein bod yn gallu cystadlu gyda'r goreuon.

"'Da ni yn yr with olaf yn awr a does dim rheswm pam na allwn fynd ymhellach y tymor wn ac am flynyddoedd i ddod."

Mae Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr yn rowndiau rhagbrofol 2012 yng Nghaerdydd y Sadwrn nesaf.

Bu allan am chwe wythnos yn ddiweddar oherwydd anaf i'w gefn ond fe gêm lawr i Spurs yn erbyn West Ham yn Uwchgynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy