BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 04 Mawrth 2011

Caerdydd yn denu golwr arall ar fenthyg

Mae Caerdydd wedi arwyddo ail golwr ar fenthyg, diwrnod ar ôl sicrhau gwasanaethau Jason Brown o Blackburn Rovers am fis.

Stephen Bywater

Golwr Derbyn County, Stephen Bywater, sydd wedi ymuno gyda'r Adar Gleision am y pedwar wythnos nesaf. Ond mae hawl gan Derby ei alw'n ôl ar rybudd o 24 awr.

Mae Bywater, 29 mlwydd oed, yn holliach ar ôl anaf i'w asennau ond yn annhebygol o adennill ei le yn nhîm Derby ar draul Frank Fielding.

Roedd Caerdydd yn awyddus i arwyddo dau golwr gan fod y dewis cyntaf tymor yma, Tom Heaton, yn dioddef o anaf i'w goes, tra bod David Marshall allan am weddill y tymor yn dilyn llawdriniaeth i'w benelin.

A chan bod yr Adar Gleision mewn sefyllfa mor addawol er mwyn ennill dyrchafiad, mae'r rheolwr Dave Jones wedi penderfynu peidio â chymryd unrhyw risg gyda'r ddau yna.

Brown neu Bywater fydd rhwng y pyst ar gyfer y gêm yn ebryn Ipswich Town ddydd Sadwrn.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy