BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 12 Tachwedd 2009
Dim croeso i Celtic a Rangers

Mae clybiau Uwch Gynghrair Lloegr wedi gwrthod syniad i wahodd Celtic a Rangers i mewn i'r gynghrair.

Chwaraewyr Celtic a Rangers yn brwdro am y bêl
Cafodd argymhelliad cadeirydd Bolton Wanderers Phil Gartside ei ddisgrifio fel un nad oedd yn "dymunol" nac yn "ymarfer" ar ôl i mwyafrif y clybiau bleidleisio yn ei erbyn.

Roedd rheolwr Aston Villa Martin O'Neill a rheolwr Tottenham Hotspur Harry Redknapp wedi croesawu'r syniad i estyn gwahoddiad i ddau brif glwb Yr Alban.

Dymuniad arall Gartside yw gweld y gynghrair yn cael ei rannu'n ddwy, gyda 18 neu 20 o glybiau yn cystadlu yn y ddwy adran.

Penderfynwyd i drafod y syniad yna ymhellach, ac mae bwrdd rheoli yr Uwch Gynghrair yn gobeithio llunio argymhellion erbyn mis Rhagfyr 2010.

Y prif reswm tu ôl i gynllun Gartside yw ei bryder bod gormod o arian yn llifo i mewn i goffrau'r pedwar brif clwb yn y gynghrair.

Y llynedd, enillodd y pencampwr Manchester United £52.3m am hawliau teledu, gyda'r clwb ar y gwalod, West Bromwich Albion, yn derbyn £31.6m.

Mae cadeirydd Abertawe Huw Jenkins wedi lleisio ei wrthwynebiad i'r syniad o greu dwy adran newydd, gan ddadlau na fyddai'n rhoi chwarae teg i bawb.

O dan y cynllun, byddai rhai o glybiau'r Bencampwriaeth yn rhan o'r ail adran ac mi fyddai posib esgyn o'r ail adran a disgyn o'r brif adran.

Ond does dim sicrwydd y bydd modd i glybiau esgyn o'r Bencampwriaeth, a dyna sy'n poeni Jenkins.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy