BBC HomeExplore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 07 Tachwedd 2009
Gwobr rheolwr y mis i Jones

Mae rheolwr Caerdydd Dave Jones wedi curo rheolwr Abertawe Paulo Sousa i ennill gwobr rheolwr y mis y Bencampwriaeth am fis Hydref.

Paulo Sousa a Dave Jones

Derbyniodd Jones y wobr ychydig funudau cyn i'w dîm herio'r Elyrch yn Stadiwm Liberty yng ngem ddarbi de Cymru.

Dyma'r pedwerydd tro i Jones ennill y wobr yn ystod ei gyfnod gyda'r Adar Gleision.

Rheolwr Caerlŷr Nigel Pearson a Billy Davies o Nottingham Forest oedd y ddau arall i'w henwebu am y wobr.

Enillodd Caerdydd 10 pwynt o bedwar gêm yn y Bencampwriaeth fis diwethaf, gydag Abertawe yn cipio 11 o bum gêm.

Mae'r Elyrch ar rediad o naw gêm heb golli, a'r Adar Gleision yn ddiguro mewn chwe gêm.

Y tro diwethaf i Jones ennill y wobr oedd ym mis Hydref y llynedd , ac fe gollodd y gêm nesaf yn erbyn Queens Park Rangers.

Y dyfarnwr ar gyfer y gêm honno oedd Lee Probert, a fo sydd yn y canol brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Liberty.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy