|
Mae Earnshaw wedi bod yn ôl yn ymarfer gyda charfan Forest ar ôl dioddef anaf i'w goes tra ar ddyletswydd rhyngwladol gyda Chymru. Fe gollodd Earnshaw y gemau yn erbyn y Ffindir a Liechtenstein yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn ddiweddar. "Mae'n ras i fod yn holliach ar gyfer y penwythnos a'r gêm yn erbyn Caerdydd," meddai Earnshaw ar ei dudalen Twitter. Sgoriodd Earnshaw 105 o goliau mewn saith mlynedd gyda Chaerdydd cyn symud i West Brom am £3.5m yn 2004.
 |