BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 28 Hydref 2009
Ramsey yn targedu mwy o gemau

Dywed Aaron Ramsey ei fod yn benderfynol o gychwyn mwy o gemau i Arsenal y tymor wrth iddo barhau i frwydro am ei le ymysg sêr Arsene Wegner.

Aaron Ramsey
Bydd y Cymro yn cychwyn i'r Gunners am yr ail dro yn unig y tymor yma pan fydd Lerpwl yn ymweld â Stadiwm Emirates ym mhedwaredd rownd Cwpan Carling nos Fercher.

"Ges i dros 20 o ymddangosiadau y tymor diwethaf felly dwi eisiau gwneud cystal neu'n well na hynny," dywedodd y chwarae canol cae 18 mlwydd oed, symudodd i Arsenal o Gaerdydd am £5m yn haf 2008.

"Dwi hefyd yn gobeithio dechrau mwy o gemau y tymor yma."

Llwyddodd Ramsey i gychwyn 10 gêm i Arsenal y tymor diwethaf, gyda'r mwyafrif o'r rheini yn dod mewn gemau yng Nghwpan y Pencampwyr.

Mi fydd mewn cwmni cyfarwydd nos Fercher wrth i Wegner barhau gyda'i bolisi o roi cyfle i'r to ifanc yn y Cwpan Carling.

Ac yn ôl Wegner, mae Ramsey yn agos iawn at wthio ei hun i'r tîm rheolaidd sy'n cystadlu ymysg ceffylau blaen Uwch Gynghrair Lloegr.

"Wrth ystyried ei fod dal dim ond yn 18, mae Ramsey wedi datblygu yn arbennig o dda," meddai'r Ffrancwr.

"Mae o wedi gwella'n arw o'i gymharu gyda llynedd pan oedd o'n edrych ychydig fel chwaraewr tîm ieuenctid, ond rŵan mae o'n edrych fel chwarae tîm cyntaf.

"Mae o'n gwthio yn galed iawn - ac mae 'na dipyn o waith o flaen y chwaraewyr canol cae eraill i'w gadw o allan o'r tîm achos mae o'n agos iawn.

"Nes i roi targed iddo ar gychwyn y tymor i chwarae rhwng 15 a 20 gêm y tymor yma, a dwi'n meddwl neith o gyrraedd hynny."

Ar ôl cael ei gyflwyno'n raddol i dîm Cymru, mae Ramsey bellach ymysg yr enwau cyntaf i'w dewis gan John Toshack.

Sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf gyda chic rydd hyfryd yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Liechtenstein ar gychwyn mis Hydref a daw cyfle arall i ddangos ei ddawn ar lwyfan rhygnwaldol fis nesaf pan ddaw Yr Alban i Gaerdydd ar gyfer gêm gyfeillgar.

Ac yntau wedi treulio 10 mlynedd gyda'r clwb, dywedodd Ramsey ei fod yn edrych ymlaen at gael chwarae yn stadiwm newydd yr Adar Gleision am y tro cyntaf.

"Mi fydd e'n dda chwarae yna," dywedodd Ramsey, sy'n hanu o Gaerffili. "Dwi heb fod yna eto felly fydd e'n dda i fi fynd nôl i Gaerdydd a gweld y stadiwm newydd.

"Gobeithio nawn ni'n dda yn y gêm a bydd hynny'n setio ni lan yn dda ar gyfer y gemau rhagbrofol nesaf."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy